Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Daw'r cyfnod o 60 diwrnod i ben yfory. Y ddadl hon yw'r ail y byddwn wedi'i chael ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, yn dilyn dadl gan Lywodraeth Cymru yn gynnar iawn yn y cyfnod o 60 diwrnod. Diben y ddadl heddiw yw rhoi cyfle olaf i'r Senedd a'r Aelodau ystyried y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Nid dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yw hon, er fy mod yn gobeithio y caiff ei llywio gan ein hargymhellion. Fel Cadeirydd y Pwyllgor, ni fyddaf yn mynd i'r afael â'r gwelliannau a gyflwynwyd gan yr Aelodau. Mae'n fwy priodol i'r Gweinidog wneud hynny.
Cyhoeddodd y pwyllgor ein hadroddiad ddydd Llun. Ynddo, gwnaethom 26 o argymhellion ar draws sawl maes polisi. Cyn i mi fynd ymhellach, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at waith y pwyllgor, naill ai drwy gyflwyniadau ysgrifenedig neu drwy ymddangos ger ein bron yn rhithwir. Hoffwn ddiolch hefyd i gynghorydd arbenigol y pwyllgor, Graeme Purves, am ei gymorth yn ystod y broses graffu.
Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn ddogfen bwysig; mae'n nodi fframwaith 20 mlynedd ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru. Os caiff ei wneud yn iawn, mae ganddo botensial i fynegi gweledigaeth feiddgar, hirdymor ar gyfer y wlad hon. Fel pwyllgor, rydym yn fodlon â 'Cymru'r Dyfodol' at ei gilydd. Gall pob aelod o'r pwyllgor dynnu sylw at elfennau y byddent am eu cryfhau, neu hyd yn oed eu dileu, ond yn gyffredinol, roeddem yn fodlon. Fodd bynnag, mynegodd un Aelod o'r pwyllgor ei wrthwynebiad i rai o'r polisïau yn 'Cymru'r Dyfodol' ac o ganlyniad, i agweddau ar gasgliadau ac argymhellion y pwyllgor. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn egluro ei resymau'n llawn cyn bo hir.
Yr her gyffredinol y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu ar hyn o bryd yw sicrhau bod y fframwaith cynllunio 40 mlynedd hwn yn ddigon gwydn i allu ymateb i'r tair her fwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd: COVID ac unrhyw feirysau yn y dyfodol, Brexit, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau'r pwyllgor bod 'Cymru'r Dyfodol' yn ddigon hyblyg a gwydn i ymateb i newidiadau cymdeithasol sy'n deillio o bandemig COVID-19.
Ond credwn ei bod yn rhy gynnar i farnu effeithiau tymor canolig a hirdymor penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng ngoleuni'r pandemig. Er enghraifft, mae Gweinidogion Cymru wedi sôn am hyd at 30 y cant o weithwyr Cymru'n gweithio gartref. Gallai hyn newid yn sylfaenol y ffordd y mae ardaloedd fel canol trefi a chanol dinasoedd yn gweithredu. A bydd hyn yn effeithio ar seilwaith, tai a chysylltedd, ac yn sicr, y busnesau sy'n seiliedig ar ddarparu gwasanaethau i'r rhai sy'n gweithio mewn swyddfeydd yng nghanol dinasoedd. Mae angen i 'Cymru'r Dyfodol' allu adlewyrchu'r holl newidiadau hyn. Rydym wedi argymell y dylai 'Cymru'r Dyfodol' gynnwys datganiad clir i adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd o COVID-19 ac egluro sut y bydd yn cefnogi adferiad ôl-COVID-19.
Roedd un o'n prif bryderon yn ymwneud â chynlluniau datblygu strategol. 'Cymru'r Dyfodol' fydd y lefel uchaf o gynllun strategol, i ddarparu fframwaith cynllunio cenedlaethol. Bydd cynlluniau datblygu strategol yn mynd rhwng y cynllun datblygu cenedlaethol a'r cynllun datblygu lleol. O ran hierarchaeth dogfennau cynllunio strategol, mae hyn yn gwneud synnwyr. Ond mae'r dull o weithredu'n cael ei lesteirio gan absenoldeb yr haen ganol o gynlluniau datblygu strategol. A dweud y gwir, nid yw awdurdodau lleol wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn datblygu'r cynlluniau hyn hyd yma. Ond er mwyn i ddull Llywodraeth Cymru weithio, mae angen iddynt ddod yn weithredol cyn gynted â phosibl.
Ceir un cymhlethdod ychwanegol. Bydd angen i awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i ddatblygu'r cynlluniau hyn o dan Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a basiwyd gan y Senedd hon yr wythnos diwethaf. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu cydbwyllgorau corfforaethol a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o fwy nag un awdurdod lleol i ddatblygu cynlluniau datblygu strategol. Wrth gwrs, mae mwy o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn beth da mewn egwyddor, ond yr hyn nad ydym am ei gael yw cyfyngu anfwriadol ar atebolrwydd tuag at gymunedau lleol. Un feirniadaeth a glywsom am 'Cymru'r Dyfodol' oedd ei bod yn ymddangos, mewn mannau, fel pe bai'n ymestyn i dir y byddech yn disgwyl iddo gael ei gynnwys mewn cynlluniau datblygu strategol. Gobeithiwn y bydd hyn yn cael ei ailgydbwyso dros amser, wrth i gynlluniau datblygu strategol gael eu cyflwyno.
Rwyf am droi yn fyr yn awr at rai o'r meysydd allweddol eraill rydym wedi ymdrin â hwy yn ein hadroddiad. Ynni: rydym wedi gwneud nifer o argymhellion manwl yn ein hadroddiad, ond mae'r prif bwynt rwyf am ei wneud yn un strategol. Credwn fod diffygion y grid yn rhwystro datblygiad strategol yng Nghymru. Os ydych am adeiladu fferm wynt neu os ydych am gael fferm solar, gwyddom fod angen i chi wneud hynny lle roedd gorsaf bŵer yn arfer bod, fel bod gennych fynediad at y grid. Mae hynny'n achosi problemau enfawr mewn llawer o ardaloedd.
Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd 'Cymru'r Dyfodol' yn darparu sail ar gyfer trafodaethau pellach gyda'r Grid Cenedlaethol a chwmnïau dosbarthu. Rhaid i'r trafodaethau hyn ddigwydd fel mater o frys, neu fel arall mae 'Cymru'r Dyfodol' yn cael ei lesteirio o'r dechrau mewn perthynas ag ynni. Mae angen strategaeth i wella'r seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan, gan gynnwys unrhyw seilwaith newydd sydd ei angen yng nghanolbarth Cymru. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Grid Cenedlaethol, cwmnïau dosbarthu trydan a'r diwydiant ynni adnewyddadwy i ddatblygu hyn ar fyrder.
Ar dai, roeddem yn fodlon ar y cyfan â'r polisïau a nodir yn 'Cymru'r Dyfodol', ond rydym am gofnodi ein siom fod gwelliannau i Ran L y rheoliadau adeiladu wedi'u gohirio unwaith eto. Mae angen y gwelliannau hyn, ond mae parhau i ohirio'r newidiadau anochel yn destun pryder. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu Rhan L ddiwygiedig y rheoliadau adeiladu fel y gall Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag y bydd, gyflwyno is-ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl yn dilyn etholiad 2021.
Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn sôn llawer am gysylltedd. Yn ein hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019, dywedasom fod angen i 'Cymru'r Dyfodol' fynd i'r afael â'r cysylltedd gwael rhwng gogledd a de Cymru. Er iddo gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae gennym bryderon hefyd ynghylch cysylltedd â gorllewin Cymru, sy'n aml yn cael ei anghofio, ac eithrio gan y rhai sy'n gorfod teithio o sir Benfro i dde-ddwyrain Cymru. Credwn fod cysylltedd trafnidiaeth yn broblem strategol barhaus ar draws rhannau o Gymru. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn rhoi gormod o'r cyfrifoldeb am hyrwyddo gwell cysylltiadau rhyngranbarthol ar y rhanbarthau eu hunain. Rhaid i'r strategaeth drafnidiaeth genedlaethol newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori arni ar hyn o bryd fynd i'r afael â hyn.
Yn olaf, gwnaethom nifer o argymhellion manwl am fioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd, y goedwig genedlaethol a'r parciau cenedlaethol. Ar fater lleiniau glas, dywedodd cyfranwyr wrthym y dylai fod gan awdurdodau lleol fwy o ddisgresiwn na'r hyn a nodwyd yn 'Cymru'r Dyfodol' o ran pennu lleoliad a maint y lleiniau glas yn eu rhanbarthau. Fel pwyllgor, mae arnaf ofn na allem gytuno. Credwn fod lleiniau glas yn arf hanfodol i gyfyngu ar flerdwf trefol. Rydym wedi argymell y dylid cryfhau eu swyddogaeth, ac y dylid pwysleisio eu manteision yn 'Cymru'n Dyfodol'.
I gloi, hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Gweinidog am y ffordd adeiladol y mae hi a'i swyddogion wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r ffordd ddefnyddiol y mae'r dogfennau niferus sy'n ymwneud â 'Cymru'r Dyfodol' wedi cael eu cyflwyno a'u hegluro. Pan gyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad ar 'Cymru'r Dyfodol' ym mis Tachwedd 2019, gwnaethom nodi 50 o gasgliadau gyda'r nod o wella'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Derbyniwyd y rhan fwyaf o'n hargymhellion. Yn yr adroddiad hwn, rydym wedi gwneud 26 o argymhellion pellach. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog. Diolch.