Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Rwy'n codi i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Roeddem yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnom i gymryd tystiolaeth ar effeithiau posibl y fframwaith datblygu cenedlaethol ar y Gymraeg ac ar darged y Llywodraeth ei hun i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Cawsom dystiolaeth ar 15 Tachwedd ac rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog. Wrth gwrs, rydym yn aros am ei hymateb ffurfiol maes o law. Mae'n wir, ar lefel strategol genedlaethol, fod y fframwaith yn gwneud nifer o gyfeiriadau at y Gymraeg, ond ar lefel ranbarthol a gofodol, mae'r cyfeiriadau'n llawer mwy cyffredinol, ac at ei gilydd mae ein pwyllgor yn credu, a dangosodd y dystiolaeth a gyflwynwyd inni, fod perygl i hwn fod yn gyfle a gollwyd mewn perthynas â defnyddio ein cynlluniau gofodol fel gwlad i ddiogelu a sicrhau dyfodol ein hiaith genedlaethol.
Mynegodd tystion nifer o bryderon ac rwyf am gyffwrdd â rhai ohonynt yn fyr. Roedd un pryder yn ymwneud ag atebolrwydd ar lefel ranbarthol. Mae'r fframwaith yn gwneud llawer iawn o'r angen i weithredu ar lefel ranbarthol, ac mae rhywfaint o reswm dros hynny, er bod gennyf fi'n bersonol bryderon am y rhanbarthau fel y'u nodir yn y fframwaith. Ond er enghraifft, nododd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg fod ei goruchwyliaeth o ddyletswyddau statudol yn ymwneud ag endidau cyfreithiol a chyrff unigol, ac mae ymhell o fod yn glir i Gomisiynydd y Gymraeg sut y mae ei gyfrifoldebau cyfreithiol dros sicrhau bod y cyrff hynny'n gweithredu'n briodol yn y ddeddfwriaeth iaith Gymraeg—sut y bydd hynny'n cael ei gyflawni pan fyddant yn cydweithredu ar lefel ranbarthol. Ble mae'r cyfrifoldeb? Os oes rhaid iddo gyflwyno sylwadau am fethiant, ymhle ac i bwy y mae'n gwneud y sylwadau hynny? Nid yw'n glir sut y bydd y dull rhanbarthol, fel y'i nodir yn y fframwaith, yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg, a hoffai'r pwyllgor i Lywodraeth Cymru ddangos yn llawer mwy eglur sut y mae'n bwriadu sicrhau mwy o dryloywder yng ngwaith y cyrff rhanbarthol a sut y gallant fod yn atebol.
Maes arall lle cawsom dystiolaeth helaeth oedd tai a'r Gymraeg. Er mwyn i'r iaith gael dyfodol, gwyddom fod angen iddi gael cymunedau byw lle caiff ei siarad yn rheolaidd o ddydd i ddydd. Ac yn y cymunedau yn y gogledd a'r gorllewin, gwyddom fod mynediad at dai yn broblem enfawr. Bydd yr Aelodau'n cofio stori pennaeth ysgol gynradd y llynedd na allai fforddio prynu tŷ yng Ngwynedd a oedd o fewn 40 milltir i'r ysgol lle roedd yn byw—fod rhywun yn y swydd broffesiynol uwch honno'n methu fforddio cartref yn ei chymuned. Nawr, nid ydym yn teimlo bod hyn yn cael sylw digonol fel problem yn y fframwaith, a bydd effaith methu cael mynediad at dai fforddiadwy, ac yn hollbwysig, at dai cymdeithasol, yn rhwystro'r cymunedau hynny rhag gallu goroesi fel cymunedau byw, a'r effaith ar ddyfodol yr iaith. Rydym yn argymell y dylai'r cysylltiad rhwng tai cymdeithasol a thai fforddiadwy mewn ardaloedd Cymraeg, a'r effaith ar y Gymraeg, gael ei nodi'n llawer mwy trylwyr yn y ddogfen fframwaith.
Rydym yn pryderu am y ffordd y cyfeirir at gymunedau gwledig yn y fframwaith fel cefnwlad i drefi a dinasoedd. Yn y cymunedau gwledig hynny y mae'r Gymraeg yn aml ar ei chryfaf, ac mae gweld cymunedau gwledig fel rhywbeth sy'n bodoli'n unig yng nghyd-destun y dref y maent yn ei hamgylchynu yn gamgymeriad go iawn yn ein barn ni. Hoffem i'r Llywodraeth fabwysiadu agwedd fwy cytbwys tuag at helpu canol trefi a chanolfannau gwledig i ffynnu, yn hytrach nag un sy'n canolbwyntio ar ganolfannau trefol gyda'u cefnwlad, fel pe bai'r ardal wledig, rywsut, yn perthyn i'r ddinas neu'r dref. Hoffem weld y fframwaith yn cael ei ddiweddaru i ystyried yr angen mwy am fynediad cyflym a dibynadwy at fand eang—unwaith eto, mae hwnnw'n hanfodol i alluogi pobl i weithio yn y cymunedau hynny. A mwy o wybodaeth gan y Llywodraeth am eu syniadau ynghylch hybiau lleol.
Ac yn olaf, Lywydd, os caf sôn am faterion prif ffrydio'r iaith, mae angen cydnabod effaith y polisïau hyn ar y Gymraeg ar bob lefel o'r ddogfen, nid ar lefel strategol genedlaethol yn unig. Credwn hefyd fod angen gweld cysylltiadau cryfach â strategaethau eraill. Er enghraifft, ble mae'r cysylltiadau â'r cynlluniau Cymraeg mewn addysg? Sut y bydd y fframwaith yn cyfrannu at strategaeth 'Cymraeg 2050'? Mae angen nodi hyn i gyd, ac yna mae angen ei fonitro. Rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth nodi sut y caiff y cyfraniad tuag at ganlyniadau 2050 ei fesur a'i fonitro os caiff y fframwaith ei gyflwyno, ac rydym wedi gofyn i lefel ranbarthol cynllunio gofodol yn y fframwaith fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu twf partneriaethau sy'n mynd i'r afael â materion penodol. Er enghraifft, dylai'r siroedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol allu cydweithio y tu hwnt i'r fframwaith fel y mae.
Edrychwn ymlaen fel pwyllgor at ymateb ffurfiol y Gweinidog. Mae amser o hyd i fynd i'r afael â'n pryderon. Os na chânt sylw, bydd hwn yn gyfle a gollwyd i'r Llywodraeth roi cig go iawn ar esgyrn eu hymrwymiad i 'Cymraeg 2050', a bydd angen i Lywodraeth newydd ddiwygio'r fframwaith yn sylweddol os nad eir i'r afael â hyn.