Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 25 Tachwedd 2020.
Wrth edrych drwy'r fframwaith hwn, rwy'n mwynhau ansawdd y ddogfen a rhai o'r mapiau; mae'n eithaf diddorol i'w ddarllen. Ond fe wnaeth ambell beth fy nharo. Un peth yr hoffwn ei ddyfynnu. Mae'n dweud:
'Dylid gwneud penderfyniadau clir ynghylch maint a lleoliad twf drwy lunio Cynllun Datblygu Strategol'.
Mae'n ddatganiad gwladoliaethol iawn. Mae'n tybio mai'r hyn a wnawn, drwy'r cynllun hwn, yw sbarduno twf a phenderfynu ble y mae, ond mewn gwirionedd, mae llawer, os nad y rhan fwyaf, o hynny'n mynd i adlewyrchu penderfyniadau a wneir yn y sector preifat. A chredaf y byddai mwy o ostyngeiddrwydd wrth ysgrifennu hyn a dealltwriaeth o ba mor bwysig yw gweithredwyr preifat a'u hymdrechion i wneud elw, o'u cymharu â'r hyn yr hoffem ei roi mewn dogfen fel hon—yn ddelfrydol, dylai'r ddau weithio gyda'i gilydd.
Yn yr adran ar dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys rhanbarth canol y de at y diben hwn, mae gennym ddatganiadau fel:
'Caerdydd fydd y prif anheddiad yn y rhanbarth o hyd, gyda’i thwf strategol yn y dyfodol yn cael ei lywio gan ei marchnadoedd tai a chyflogaeth cryf a bydd yn parhau â’i rôl fel prifddinas'.
Nid wyf yn siŵr i ble mae hynny'n mynd â ni. Mae'r adran nesaf, serch hynny, yn dweud:
'Bydd angen i Gynlluniau Datblygu Strategol a Lleol ystyried y rhyngddibyniaeth rhwng Caerdydd a’r rhanbarth ehangach.'
Ac mae hynny'n sicr yn iawn. A'r hyn a'm trawodd yn bennaf oedd y cynllun datblygu lleol, i ddechrau o leiaf, gyda Chaerffili a'r holl dai a godwyd tuag at y ffin â Chaerdydd, a dim ond trafnidiaeth ffyrdd ar gael i fynd â'r bobl hynny i swyddi yng Nghaerdydd, ac nid oedd hynny'n gydgysylltiedig. Yna cawn ddatganiad:
'Mae Caerdydd yn dibynnu ar bobl o bob rhan o’r rhanbarth ac mae sicrhau bod cymunedau o amgylch y Brifddinas yn fywiog, yn ffyniannus ac yn gysylltiedig yn helpu i gefnogi Caerdydd.'
Wel ie, efallai, ac mae'n amlwg y bydd hynny'n cefnogi Caerdydd i'r graddau y mae'r ardaloedd hynny'n gysylltiedig â Chaerdydd a'n bod yn atgyfnerthu hynny ymhellach. Ond os yw'r cysylltiadau hynny mewn mannau eraill yn y rhanbarthau, efallai na fyddant yn gwneud hynny, ac os ydynt y tu allan i'r rhanbarth, ac nid i Gaerdydd, mae'n ddigon posibl na fyddant yn cefnogi Caerdydd, neu hyd yn oed yn mynd â thwf oddi wrthi. Felly, un enghraifft o hynny fyddai rheilffordd Glynebwy, ac a ddylai gwasanaethau arni ddod i Gaerdydd yn unig neu a ddylem hefyd gael o leiaf un yr awr i Gasnewydd. Ac os aiff hwnnw ymlaen wedyn i Gaerdydd, yn amlwg—os gwnewch un penderfyniad, mae'n cefnogi twf Caerdydd yn fwy nag un arall, lle gallech helpu i gael mwy o dwf yng Nghasnewydd a allai fod wedi bod yng Nghaerdydd fel arall.
Yn yr un modd, mae'r cysylltiadau yn y rhanbarth y tu allan i'r rhanbarth hefyd yn bwysig, ac os cymerwn Gasnewydd fel enghraifft, gallai gwella'r cysylltiadau â Bryste fod o fudd mawr iawn i Gasnewydd. Ond mae'n annhebygol o gefnogi Caerdydd i'r un graddau os yw'n arwain at fwy o ffocws ar economi Casnewydd tuag at Fryste yn hytrach na Chaerdydd, er y byddai'n well gennym iddynt ategu ei gilydd wrth gwrs. Awn ymlaen i ddweud y dylai buddsoddiadau fod wedi'u
'lleoli yn y lleoedd mwyaf hygyrch a chynaliadwy yng nghyd-destun y rhanbarth cyfan', ond beth am y rhanbarthau eraill, beth am ardaloedd dros y ffin yn Lloegr? Clywais Siân Gwenllian yn cwyno yn gynharach am y ffordd roedd hyn yn canolbwyntio llawer gormod ar gysylltiadau rhwng y dwyrain a'r gorllewin a chrynoadau trawsffiniol, ac mewn gwirionedd, nid wyf yn gweld cymaint o hynny. Ac yn sicr, yn y rhan ar dde-ddwyrain Cymru, nid yw'n ymddangos ei fod yn cael ei grybwyll. Er enghraifft, dywedwn,
'Ar hyn o bryd mae Caerdydd yn mynd drwy gyfnod o dwf sylweddol o ran ei phoblogaeth a chyflogaeth, ond ni all y ddinas barhau i ehangu’n ddiderfyn heb effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd. Mae’n ddinas gryno sy’n agosáu at ei therfynau ffisegol', ac yn y cyd-destun hwnnw awn ymlaen wedyn i ddweud am Gasnewydd—neu mae'r Llywodraeth yn dweud—yn y ddogfen hon:
'Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld datblygu a thwf yng Nghasnewydd, a fydd yn galluogi’r ddinas i gyflawni ei photensial fel yr ail ganolbwynt i’r rhanbarth.'
Felly, wrth gwrs, un rheswm y gallai Casnewydd dyfu yw oherwydd cyfyngiadau ar dwf yng Nghaerdydd, ond mae'n siŵr fod angen inni hefyd ystyried beth yw'r cyfyngiadau ar dwf ym Mryste. Ac fe welwch lain las lawer tynnach o amgylch Bryste, fe welwch lefelau llawer uwch o brisiau tai a chyfyngiadau sylweddol iawn ar ddatblygu. Felly, o leiaf ar gyfer Casnewydd ac ardaloedd eraill ger y ffin â Lloegr, mae angen inni ganolbwyntio ar sut rydym yn denu busnes oddi yno er mwyn cynyddu cyfoeth a ffyniant yn rhanbarth y de-ddwyrain, ac nid wyf yn credu ein bod yn gwneud digon o hynny ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy'n canmol Llywodraeth Cymru yn yr ardaloedd lle—felly, Cymorth i Brynu, mae tua chwarter y gwariant, o leiaf hynny rwy'n credu, wedi bod ar eiddo o amgylch Casnewydd, gyda llawer ohono'n cartrefu pobl sydd wedyn yn cymudo i Fryste, er eu bod yn cefnogi sylfaen treth incwm Cymru. Yn yr un modd, credaf fod Ken Skates wedi gweithio'n galed iawn ar lobïo i wella gwasanaethau o Gaerdydd drwy Gasnewydd i Fryste, ac unwaith eto, byddai hynny o fudd i'r rhanbarth cyfan.
Felly, er fy mod yn credu bod pethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud sy'n gweithio'n drawsffiniol i gefnogi'r twf hwnnw, nid yw'n ymddangos bod y ddogfen hon ei hun yn gwneud hynny i'r un graddau, ac mae'n ymddangos ei bod yn canolbwyntio'n rhanbarthol iawn o fewn yr is-rannau, yn hytrach na chwilio am y cyfleoedd i weithio'n drawsffiniol ac ysgogi ffyniant i Gymru. Diolch.