7. Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 25 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 5:05, 25 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr a'r cyfraniadau a wnaethpwyd gan yr Aelodau heddiw. Nid dyma'r tro cyntaf inni drafod 'Cymru'r Dyfodol' na'r fframwaith datblygu cenedlaethol, felly bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod o'r farn fod y cynllun hwn yn hanfodol i sicrhau bod ein system gynllunio'n canolbwyntio ar y materion mawr sy'n ein hwynebu. Mae'r ddadl hon unwaith eto'n profi bod gan bob un ohonom syniadau ynglŷn â sut y dylai'r system gynllunio weithredu, beth ddylai ei blaenoriaethau fod ac a fydd 'Cymru'r Dyfodol' yn cyflawni ein huchelgeisiau.

Mae Aelodau wedi tynnu sylw at amrywiaeth o faterion yr eir i'r afael â hwy yn 'Cymru'r Dyfodol', gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, tai cymdeithasol a fforddiadwy, trafnidiaeth, yr economi, seilwaith gwyrdd, yr iaith Gymraeg, seilwaith digidol a'n cyflenwad ynni. Byddaf yn treulio'r ychydig fisoedd nesaf wrth gwrs yn myfyrio'n fanwl ar argymhellion y Senedd, ac oherwydd cyfyngiadau amser, ni allaf ymdrin â hwy i gyd yma, ond rwyf am roi sylw i ychydig o'r pwyntiau a godwyd hyd yma.

Mynegodd Mike Hedges a nifer o rai eraill bryderon am allu'r cynllun i ymateb i COVID, ac er ei bod yn bwysig peidio â bod yn hunanfodlon wrth gwrs, mae hwn yn gynllun sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles drwy'r system gynllunio gyfan. Bydd y polisïau ar seilwaith gwyrdd, teithio llesol a chanol y dref yn gyntaf yn hanfodol i helpu'r adferiad. Mewn perthynas â nifer o'r cyfraniadau, mae hefyd yn bwysig cofio nad 'Cymru'r Dyfodol' yw holl bolisi'r Llywodraeth. Nid yw'n disodli ein strategaethau mawr eraill, ond yn hytrach mae'n gweithio gyda hwy.

Hefyd, Lywydd, mae'r Bil a basiwyd gennym yr wythnos diwethaf yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig fel cyrff corfforaethol, felly gallaf sicrhau'r Aelodau eu bod yn dod o dan holl bolisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Gymraeg.

Mae'n wych gweld y pwyllgor a Jenny Rathbone yn cydnabod gwerth cyflwyno'r llain las, yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain. Bydd y lleiniau glas, wrth gwrs, yn helpu i gyflawni amcanion creu lleoedd mewn lleoedd fel Casnewydd, Cas-gwent a Chwmbrân, yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, a byddant yn sicrhau ein bod yn osgoi datblygu blerdwf anghyfrifol ar dir amaethyddol cynhyrchiol. Ac wrth gwrs, mae darparu tai fforddiadwy a thai cymdeithasol yn greiddiol i 'Cymru'r Dyfodol'. Yn wir, comisiynwyd data anghenion newydd gennym yn benodol ar gyfer cefnogi'r elfen honno.

Lywydd, byddaf yn gwrthwynebu gwelliannau Plaid Cymru heddiw. Ymddengys nad ydynt wedi sylwi bod newidiadau wedi'u gwneud ar ôl ymgynghori ar y cynllun drafft, nac yn cydnabod rôl pwyllgorau trawsbleidiol a'u Haelodau eu hunain wrth iddynt ddadlau dros y newidiadau hynny. Cytunais o'r cychwyn cyntaf y dylai unrhyw ôl troed cynllunio rhanbarthol adlewyrchu ôl troed sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na chreu un newydd. Fy marn yn wreiddiol oedd defnyddio ôl troed tri rhanbarth y cynllun gweithredu economaidd, ond cytunais i newid i'r ôl troed pedwar rhanbarth a ffafriai pwyllgorau'r Senedd ac awdurdodau lleol. Os caf, Lywydd, hoffwn dynnu sylw at ddau ymateb i'r ymgynghoriad ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Dywedodd cyngor Ceredigion o dan arweiniad Plaid Cymru, ac rwy'n dyfynnu, 'Rhaid i'r fframwaith datblygu cenedlaethol gydnabod canolbarth Cymru fel rhanbarth ar wahân, gan ddefnyddio datblygiad pedwar bargen twf ar draws Cymru'. Yn y cyfamser, dywedodd Partneriaeth Twf Canolbarth Cymru, sydd, wrth gwrs, yn ymdrech ar y cyd rhwng cyngor Ceredigion a chyngor Powys, 'Y ffordd orau o fynd i'r afael â materion cynllunio strategol ledled canolbarth Cymru yw drwy gydweithio rhwng awdurdodau cynllunio lleol Ceredigion a Phowys.' Felly, Lywydd, rydym wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r rhanbarthau wedi'i ddweud wrthym. Ofnaf y byddai gwelliannau Plaid Cymru yn gwrth-ddweud barn y rhanbarthau, a byddwn yn eu gwrthwynebu am y rheswm hwnnw.

Lywydd, mae'n debygol mai hon fydd y ddadl olaf ar y cynllun cyn ei gyhoeddi, felly mae'n ymddangos yn gyfle da i fyfyrio ychydig ar fy mhrofiad o ddatblygu 'Cymru'r Dyfodol' a dod ag ef i'r cam hwn. Teimlaf fod y broses wedi bod yn gyfuniad o weithio o fewn strwythurau presennol ac o allu cyflwyno syniadau newydd ac uchelgais newydd. Nid yw'r cynllun yn gosod polisi trosfwaol y Llywodraeth, ond yn hytrach mae'n nodi sut y gall y system gynllunio helpu i'w gyflawni. Er enghraifft, mae arnom eisiau poblogaeth ac amgylchedd iach, felly bydd y cynllun yn darparu mwy o fannau gwyrdd a lleoedd sy'n ein denu allan o'n ceir. Mae angen inni ddatgarboneiddio, ac felly mae'r cynllun yn canolbwyntio'r datblygiadau mwyaf ar yr ardaloedd lle ceir, neu lle gellir gwneud trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn fwyaf gwydn. Rydym eisiau economi deg a ffyniannus, felly mae gennym ardaloedd twf mawr ac rydym yn ceisio lledaenu datblygiad swyddi ar eu traws, yn hytrach na chanolbwyntio ar ganol y dinasoedd mwyaf.

Mae ysgrifennu cynllun cenedlaethol yn weithred o gydbwyso rhwng gweithredu ar bob pwnc posibl a chofio mai cynllunio lleol yn aml yw'r lle gorau i fynd i'r afael â'r heriau. Mae hefyd yn gydbwysedd rhwng ailadrodd dogfen arall a pheidio ag anwybyddu pwnc. Rwyf hefyd wedi canfod bod pobl yn croesawu'r amserlen 20 mlynedd ar gyfer y cynllun, ond yn disgwyl atebion ar unwaith cyn gynted ag y cyhoeddir y cynllun. Mae llawer o bobl am gael cynllun sy'n hyblyg, ond yn anghyfforddus pan fydd canlyniadau'n ansicr. Mae ein polisïau ynni yn enghraifft wych o hyn. Rydym wedi datblygu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn helpu i gyflawni targedau cenedlaethol ar gyfer trydan o ffynonellau glân sy'n diogelu ein tirweddau dynodedig. Rydym wedi gwneud hyn tra'n gweithio gyda chymunedau a'r sector datblygu. Rydym wedi ystyried ein daearyddiaeth, wedi meddwl am yr hyn y bydd ei angen ymhen 20 mlynedd, a sut y gallai cymdeithas fod yn wahanol erbyn hynny. Edrychwyd ar ble mae'r seilwaith presennol, a lle ceir gweithlu medrus yn barod i fanteisio ar gyfleoedd newydd. Buom yn edrych ar ble y mae'n wyntog neu'n heulog ac yn meddwl am yr hyn y byddai cerbydau trydan yn ei olygu i'r galw. Roeddem yn cydnabod bod y system gynllunio a'i dyletswydd i weithredu er budd y cyhoedd yn codi materion nas rhagwelwyd, felly rydym wedi sicrhau bod mwy o opsiynau ar gael i ddatblygwyr nag y bydd eu hangen. Ac eto, dywedir wrthyf y dylai'r cynllun hwn fod yn fwy penodol o ran ble y bydd tyrbinau gwynt newydd yn mynd, canolbwyntio mwy ar wynt ar y môr, ar gynhyrchiant lleol a microgynhyrchu, ac y bydd prosiectau'n cymryd gormod o amser i ddwyn ffrwyth.

Lywydd, potensial mawr y cynllun hwn yw'r ffaith bod y system gynllunio'n edrych ar ein holl faterion mawr—iechyd, yr economi, yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd, yr argyfwng hinsawdd—ac yn credu y gall wneud rhywbeth i wella'r sefyllfa mewn ffordd gyfannol. Boed eich bod yn cytuno â chynnwys 'Cymru'r Dyfodol' neu beidio, mae pob penderfyniad a wnaed gennym wedi'i brofi drwy ymgynghori ffurfiol mewn digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnydd o asesiadau effaith. Mae gennym hefyd fframwaith monitro a fydd yn ein helpu i ystyried a mireinio'r cynllun dros amser. Mae cynnwys y cyhoedd mewn gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi ein helpu i gyflawni cynllun yr ydym yn hyderus y bydd yn cael dylanwad mawr a chadarnhaol ar ein system gynllunio.

Rwy'n croesawu'r craffu a wnaethpwyd ar y cynllun hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried argymhellion y Senedd. Ym mis Chwefror byddaf yn cyhoeddi adroddiad yn nodi sut yr ymatebais i'r holl argymhellion, yn ogystal â fersiwn derfynol 'Cymru'r Dyfodol'. Diolch yn fawr.