Y Gwasanaeth Iechyd yn y Gogledd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 1 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:17, 1 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae'r gwelliant i wasanaethau'r GIG yn y gogledd wedi bod yn amlwg yn ymateb cydlynol a chynhwysfawr y bwrdd iechyd i'r argyfwng coronafeirws. Roedd hyn a thystiolaeth arall o welliant yn sail i'r argymhelliad diweddar y dylai'r sefydliad gael ei lacio i ymyrraeth wedi'i thargedu.