1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Rhagfyr 2020.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am welliannau i'r GIG yng ngogledd Cymru? OQ55964
Llywydd, mae'r gwelliant i wasanaethau'r GIG yn y gogledd wedi bod yn amlwg yn ymateb cydlynol a chynhwysfawr y bwrdd iechyd i'r argyfwng coronafeirws. Roedd hyn a thystiolaeth arall o welliant yn sail i'r argymhelliad diweddar y dylai'r sefydliad gael ei lacio i ymyrraeth wedi'i thargedu.
Prif Weinidog, ers cyhoeddi'r cam o lacio mesurau arbennig i ymyrraeth wedi'i thargedu, mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi sydd wedi'u drysu'n llwyr gan y penderfyniad i leihau lefel yr ymyrraeth yn y bwrdd iechyd hwnnw. Byddwch yn ymwybodol, gan mai chi wnaeth y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig, bod pryderon difrifol ar yr adeg y'i gwnaed yn destun mesurau arbennig, ynglŷn â gwasanaethau iechyd meddwl ac, yn wir, ei berthynas â'r cyhoedd. Fe'i hysbyswyd bod angen iddo ailgysylltu â'r cyhoedd, adennill ffydd y cyhoedd, a rhoi trefn ar ei wasanaethau iechyd meddwl, ac eto dyma ni, dros bum mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i fod mewn sefyllfa lle mae ffydd y cyhoedd yn isel dros ben a lle mae gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i fod yn annigonol. Nid oes hyd yn oed strategaeth effeithiol i'w rhoi ar waith ar iechyd meddwl er mwyn gwella'r gwasanaethau hynny. Pam, o ystyried absenoldeb tystiolaeth o welliant i ofal iechyd meddwl, ac yn wir absenoldeb tystiolaeth o welliant yn y berthynas â'r cyhoedd, yn arbennig, mae'r sefydliad hwn wedi cael ei dynnu allan o fesurau arbennig yn gyfan gwbl?
Wel, mae'r sefydliad wedi cael ei dynnu allan o fesurau arbennig, Llywydd, oherwydd bod y system driphlyg sy'n cynghori prif weithredwr y GIG wedi ei gyfarwyddo i argymell i'r Gweinidog iechyd mai dyma'r adeg iawn y dylid llacio'r mesurau. Mae hwnnw yn fater arferol yn y gwasanaeth iechyd—mae byrddau iechyd yn symud i fyny ac i lawr o ran mesurau. Ym mis Awst 2019, llaciwyd mesurau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i fonitro rheolaidd, ac ym mis Medi eleni, llaciwyd mesurau Bae Abertawe a Hywel Dda o ymyrraeth wedi'i thargedu i fonitro estynedig. Efallai fod yr Aelod yn credu bod ei ymdrechion i berswadio pobl i ddrwgdybio'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd wedi llwyddo, ond nid yw wedi llwyddo ymhlith pawb. Cyhoeddodd Unsain, roeddwn yn falch iawn o ddweud, ddatganiad i'r wasg ar y diwrnod y gwnaed y penderfyniad. Mae'r penderfyniad hwn, meddai:
yn cyfiawnhau gwaith caled pob un gweithiwr gofal iechyd yn Betsi, y bobl hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino i weld BIPBC yn cael ei dynnu allan o fesurau arbennig.
Ac yn fwy cyffredinol, Llywydd, bydd y boblogaeth yn y gogledd yn gwybod mai gwasanaethau canser yn y gogledd, y perfformiad 62 diwrnod a'r perfformiad 31 diwrnod, yw'r gorau yng Nghymru gyfan, bod y nifer uchaf erioed o feddygon teulu a recriwtiwyd y cyfeiriais ato yn fy nghwestiwn diwethaf wedi dod o ganlyniad i'r gwaith a wnaed yn Betsi i ddyfeisio'r modiwl hyfforddi newydd sydd bellach wedi'i gyflwyno ar lefel Cymru gyfan, yr holl leoedd meddygon teulu dan hyfforddiant a lenwyd yn Wrecsam, ym Mangor ac yn Nyffryn Clwyd. Mae gan weithwyr proffesiynol ffydd yng ngwaith y sefydliad hwnnw, hyd yn oed os nad oes gan yr Aelod.