Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Ers 2002, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, model sy'n cydnabod bod pobl sydd â namau yn cael eu gwneud yn anabl gan weithredoedd ein cymdeithas ni ac nid gan eu hanableddau nhw. Wrth ddweud 'gweithredoedd ein cymdeithas ni', mae'n rhaid cofio mai pobl sy'n dylunio ac yn cyflawni'r camau anablu hyn, a phobl a systemau sy'n gwneud pobl yn anabl, boed hynny'n cael ei ysgogi gan ddiwylliant sefydliadol, anwybodaeth, rhagfarn neu ddifaterwch pur. Er bod llawer o'n gwaith ni wedi canolbwyntio'n briodol ar geisio lliniaru gweithredoedd ein diwylliant ni o ragfarn yn erbyn pobl anabl, rwy'n bwriadu archwilio sut y gallwn ni fynd i'r afael yn uniongyrchol â rhagfarn yn erbyn pobl anabl.
Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn deall y model hwn, gan ei fod yn newid ein ffordd ni o feddwl. Mae'n golygu ein bod ni'n canolbwyntio ar nodi a dileu'r rhwystrau i gyfraniadau pobl anabl. Mae'n rhaid inni gynnwys y dull hwn yn ein holl waith ni wrth ddatblygu a chyflawni polisïau ar draws holl waith y Senedd. Dyna pam rwy'n falch o gefnogi ymgynghoriad presennol y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sefydlu cronfa newydd i roi cymorth i bobl anabl geisio am swydd etholedig yn etholiadau Senedd 2021 ac etholiadau llywodraeth leol 2022. Mae hwn yn gam rhagweithiol tuag at leihau rhai o'r rhwystrau a allai fod fel arall yn atal unigolyn rhag cymryd rhan mewn democratiaeth leol a chynrychioli ei gymuned drwy sefyll am swydd etholedig. Rwy'n mawr obeithio y bydd y gronfa hon yn annog pobl anabl i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau'r flwyddyn nesaf. Mae angen clywed eu lleisiau nhw ym mhob rhan o'r gymdeithas.
Mae gan bobl anabl ran allweddol i'w chwarae yn ein hadferiad economaidd ni hefyd, a dyna pam, yng Nghymru, y bydd gennym ni hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl cyn bo hir. Fe fydd yr hyrwyddwyr hyn yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i lunio gweithlu sy'n cynrychioli pawb ac yn agored i bawb. Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y cyflogwyr yn cael eu cefnogi gan becyn cymorth newydd, 'Cymru fwy cyfartal: canllaw ymarferol i gyflogwyr sy'n cyflogi pobl anabl', a gaiff ei lansio ddydd Iau nesaf i gyd-fynd â diwrnod rhyngwladol pobl anabl.
Fe fyddaf i'n siarad â rhanddeiliaid a chynrychiolwyr sefydliadau pobl anabl yn rheolaidd drwy ein fforwm cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl. Rwyf wedi cadeirio chwe chyfarfod o'r fforwm hwn ers dechrau'r pandemig, ac fe gynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ar 21 Hydref. Mae eu cyngor a'u harweiniad nhw wedi ein helpu ni i ddeall sut mae'r pandemig yn effeithio ar wahanol gymunedau, yr hyn sy'n achos pryder i bobl, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i wneud pethau'n well, yn haws ac yn deg. Fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r grŵp trawsbleidiol ar bobl anabl hefyd am eu rhan nhw yn y gwaith o daflu goleuni ar effeithiau COVID-19 o ran annhegwch. Mae aelodau fforymau anabledd yn cyfrannu at grŵp cyfathrebu hygyrch Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi gwybod inni am yr anawsterau a ddaw ar draws gwahanol grwpiau, gan gynnwys pobl anabl, wrth gael gafael ar wybodaeth yn ystod pandemig COVID-19. Fe roddodd aelodau'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl adborth allweddol ar y canllawiau 'Creu mannau cyhoeddus mwy diogel: coronafeirws', gan sicrhau bod ystyriaethau hygyrchedd yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu ac addasu canolfannau trefol a mannau gwyrdd. Felly, fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ychwanegu at ein dealltwriaeth ni dros y misoedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae gallu gweithio mor agos gyda'n partneriaid wedi bod o fudd enfawr.
Un o sgil-effeithiau enbydus y pandemig fu'r effaith ar yr economi ac yn enwedig o ran gallu sefydliadau'r trydydd sector i godi arian a chynnal eu hincwm. Mae hynny yn ei dro wedi cyfyngu ar eu gallu i gefnogi eu haelodau ac mae'r dyfodol yn llai sicr iddynt. Dyna pam rwy'n falch y dyrannwyd £200,000 o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer ail-greu i ariannu prosiectau anabledd ledled Cymru. Fe fydd hyn yn ychwanegu at y £100,000 a ddyrannwyd i Gymru o gynllun argyfwng COVID ledled y DU. Fe fydd yr arian hwn yn cael ei ddosbarthu mewn grantiau bach i naw o sefydliadau pobl anabl ledled Cymru, gan gefnogi gwaith hanfodol, rhoi gwybodaeth a chyngor a datblygu ffyrdd newydd o ymateb i anghenion pobl anabl o ran COVID-19.
Rwy'n hapus dros ben fod yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd wedi cytuno i arwain prosiect i lunio adroddiad ar effaith COVID ar bobl anabl. Fe fydd aelodau'r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl yn gweithio ochr yn ochr â'r Athro Foster i ddwyn ynghyd yr wybodaeth, y dystiolaeth a'r astudiaethau achos.
Yn olaf, fy mwriad i yw y bydd yr adroddiad pwysig hwn yn llywio'r gwaith o adnewyddu fframwaith 'Gweithredu ar Anabledd' a lansiais i yn 2019. Drwy ystyried y fframwaith eto yng ngoleuni COVID, rwy'n benderfynol y byddwn ni'n gallu gweithredu ar garlam i ymgorffori'r hyn a ddysgwyd yn sgil y pandemig hwn. Gydag ystod mor bwysig o waith yn digwydd yng Nghymru, mae'n bleser gennyf wahodd pob un o Aelodau'r Senedd i ddathlu gyda mi gyfraniad pobl anabl yng Nghymru ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl y Cenhedloedd Unedig.