Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl, sy'n ceisio nodi a mynd i'r afael â'r gwahaniaethu, ymyleiddio, allgáu a diffyg hygyrchedd y mae llawer o bobl sy'n byw gydag anableddau yn eu hwynebu. Fe alwodd y Cenhedloedd Unedig nôl ym 1992 am ddiwrnod rhyngwladol i ddathlu pobl sy'n byw gydag anableddau i'w gynnal ar yr adeg hon, ar y dyddiad hwn ym mis Rhagfyr bob blwyddyn. Mae'n gyfle inni amlinellu ac ailadrodd ein hymrwymiad i greu cymunedau sy'n gynhwysol, yn hygyrch ac yn gynaliadwy yma yng Nghymru ein gwlad. Mae effeithiau'r coronafeirws, fel y mae'r Dirprwy Weinidog newydd ei ddweud, wedi pwysleisio'r angen i weithredu yn hyn o beth, a hynny ar fyrder.
Mae llawer o elusennau pobl anabl yma yng Nghymru wedi uno i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu gyda phendantrwydd i ddiogelu llesiant a goroesiad pobl anabl ac eraill sydd mewn perygl mawr o gael y feirws. I bobl anabl, mae'n amhosibl dilyn llawer o'r cyngor ar sut i osgoi haint, fel hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol. Mae angen cymorth bob dydd ar lawer o bobl anabl ac mae angen cymorth cynorthwywyr personol a gweithwyr gofal arnynt. Fe fynegwyd pryderon ynghylch ansawdd y gofal y gellir ei ddarparu pan fydd gweithwyr gofal yn ynysu neu'n mynd yn sâl. Mae elusennau pobl anabl wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau cydgysylltiedig ar waith ar sut i ymateb i brinder gweithwyr gofal. Mae'n amlwg bod pobl anabl yn debygol o wynebu niwed, nid yn unig yn sgil coronafeirws ei hun ond drwy'r pwysau cyffredinol sydd ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i ddarparu gofal cymdeithasol a darparu gwybodaeth a chymorth hawdd ei gael yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu trin fel dioddefwyr anochel yn y pandemig hwn, ac felly rydym yn croesawu'r arian yr ydych chi newydd ei amlinellu yng ngoleuni COVID-19.
Rwy'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog, yn ei hateb hi, i gadarnhau y rhoddir blaenoriaeth i bobl anabl yn y rhaglen frechu sydd i ddod yma yng Nghymru. Mae troseddau casineb yn broblem gynyddol yn y DU ac, yn anffodus, ni chaiff Cymru ei heithrio o hynny. Fe fu yna gynnydd o 84 y cant yn nifer y troseddau casineb anabledd ar-lein a adroddwyd i'r heddlu yng Nghymru y llynedd. Er nad yw deddfwriaeth troseddau casineb yn gyfrifoldeb a ddatganolwyd i'r Senedd hon, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer eiriolaeth a chymorth i ddioddefwyr. Mae'n rhaid inni ddal ati i annog yr heddlu i weithio mewn partneriaeth â phobl anabl a'u sefydliadau nhw i sicrhau bod troseddau casineb anabledd yn cael eu cydnabod, eu cofnodi a'u hadrodd yn fanwl gywir.
Mae'r Dirprwy Weinidog yn gwybod fy mod i'n cefnogi ymgyrch y Bleidlais Borffor, a anelir at godi mater ymwybyddiaeth o anabledd i'r rhai sydd mewn swyddi etholedig ar bob lefel. Mae'r gymdeithas yn parhau i osod heriau sylweddol ar bobl anabl, ac mae'n hanfodol bod pob llais o bob sector o gymdeithas Cymru yn cael eu clywed a'u bod nhw i gyd yr un mor ddilys â'i gilydd. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cronfa newydd i roi cymorth i bobl anabl wrth geisio swydd etholedig ar gyfer etholiadau Senedd 2021 ac etholiadau llywodraeth leol 2022. Rwy'n croesawu hyn ac yn edrych ymlaen at weld mwy o ymgeiswyr anabl yn sefyll mewn etholiadau ar lefel leol a chenedlaethol yn y dyfodol. Fe fyddai hynny'n ychwanegu llawer o werth at y gwaith a gafodd ei wneud yn y fan hon.
Yn olaf, Dirprwy Weinidog, a gaf i ofyn am y cyfleoedd sydd gan bobl anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru? Mae angen i gyrff llywodraethu chwaraeon fabwysiadu dull sydd wedi'i gynllunio, sy'n fwy cydlynol a chydgysylltiedig o ymdrin â chwaraeon pobl anabl yng Nghymru. A ydych chi'n cytuno y dylai cyrff llywodraethu chwaraeon osod nodau ar gyfer codi cyfraddau cyfranogiad ymhlith pobl anabl, a sut mae Llywodraeth Cymru am arolygu'r cynnydd hwnnw o ran cael mwy o bobl anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon? Ac a ydych chi'n cytuno â mi fod angen mwy o gyfleusterau pob tywydd yng Nghymru i sicrhau bod cyfranogiad yn bosibl drwy gydol y flwyddyn? Fe all cymryd rhan mewn chwaraeon fod â rhan bwysig wrth wneud i bobl anabl deimlo eu bod yn cymryd mwy o ran a'u bod yn rhan gynhenid o gymdeithas. Dyma un o'r amcanion ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, a diolchaf i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad hi heddiw.