Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Mae Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau wedi rhybuddio, ers dechrau pandemig COVID-19, fod yr hyn sy'n cyfateb i werth pum mlynedd o awtomeiddio a digideiddio wedi digwydd, gyda swyddi lletygarwch, manwerthu a gweithgynhyrchu yn rhai o'r rheini a gafodd eu taro galetaf. Maen nhw'n dadlau bod yr ymateb i'r feirws o bosibl yn rhoi gobaith ffug i lawer o weithwyr yn y diwydiannau hyn heb ddyfodol hirdymor yn oes yr awtomeiddio.
Mae'r byd gwaith yn sicr o newid. Mae mwy o bobl yn gweithio o bell, ac rydym ni eisiau gweld hynny'n parhau fel y drefn arferol y tu hwnt i'r argyfwng. Mae'r ffordd y mae gwasanaethau'n gweithio, a sut y cyflawnir tasgau, hefyd yn cael eu hailgynllunio wrth i drawsnewid ac awtomeiddio digidol ddigwydd. Nid yr hyn a wnawn yn unig, ond sut yr ydym yn ei wneud sy'n trawsnewid. Mae'r pandemig wedi ein gorfodi i addasu'n gyflym yn unigol, gyda llawer o fusnesau hefyd yn symud i fodelau cyflenwi newydd gan fod arferion a disgwyliadau cwsmeriaid wedi newid.
Er gwaethaf maint y newidiadau, dylem gydnabod y rhan gadarnhaol y mae arloesi digidol wedi'i chwarae, ac y bydd yn parhau i'w chwarae, mewn cymdeithas fodern. Mae rhai manteision gwirioneddol o ran rhyddhau pobl o dasgau cyffredin, creu datblygiadau arloesol newydd a chefnogi swyddi sgiliau uwch y dyfodol. Nid oes ond rhaid inni edrych ar Gaerffili, lle nad oes rhaid i rieni sy'n chwilio am gymorth ar frys gan y cyngor i gael prydau ysgol am ddim, aros pum diwrnod hir am benderfyniad mwyach, gallan nhw nawr gofrestru ar unwaith. Mae awtomeiddio prosesau robotig, a groesawyd gan y cyngor, ac a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Codebase 8 Ltd, busnes digidol bach yn Llanelli, wedi dileu'r gwaith papur, gwella'r gwasanaeth i'r dinesydd, a rhyddhau staff o dasgau ailadroddus i helpu gyda gwaith brys arall.
Ond mae arfer gorau yn aml yn anodd ei ledaenu. Dyma pam rydym ni wedi sefydlu'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nglynebwy, sy'n creu canolfan arbenigedd. Maen nhw eisoes yn rhannu arfer gorau wrth ddefnyddio dulliau digidol i wella'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus, ac, yn hollbwysig, yn cynnig cymorth a hyfforddiant ymarferol i gynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr. Mae'r cyntaf o'u carfanau trawsnewid digidol wrthi'n gweithio gyda thri chyngor lleol i ddeall oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol i oedolion sut y gallan nhw wella'r gwasanaeth ar eu cyfer. A dyna yw nod y cyfrwng digidol: mynd i'r afael â hen broblemau mewn ffordd newydd er budd y dinesydd, a chreu sgiliau ac arloesedd newydd wrth i ni wneud hynny.
Mae'r pandemig wedi gorfodi'r newid i ddigwydd yn gyflymach. Mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran rhoi offer TG i gefnogi unigolion i gysylltu â'r byd, o addysg gartref, i ddarparu mynediad i'r rhai mewn cartrefi gofal. Rydym ni wedi gweld y datblygiadau cyflym sy'n cael eu gwneud mewn apwyntiadau fideo gofal iechyd drwy'r gwasanaeth 'Attend Anywhere'. Ym mhob un o'r achosion hyn, roedd y ddarpariaeth yn seiliedig ar angen brys, a dylid canmol y timau dan sylw am eu hymdrechion i gyflwyno gwasanaethau mewn wythnosau a allai gymryd blynyddoedd i'w cyflawni mewn cyfnod arferol.
Ond er gwaethaf ein llwyddiannau, rwy'n awyddus i beidio â bod yn hunanfodlon. Mae gwersi y dylem fod yn eu dysgu o'r broses o gyflwyno gwasanaethau, gan gynnwys gweithredu'r gwasanaethau'n anghyson weithiau. Er enghraifft, mae mwy na thraean o'r dyfeisiau a aeth i gartrefi gofal heb eu troi ymlaen eto, sy'n dangos nad yw darparu cyfarpar ar ei ben ei hun yn ddigon. Mae angen i ni feithrin hyder a sgiliau pawb i ddefnyddio technoleg. Ac mae'n ein hatgoffa ni bod angen gwneud mwy i sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i fod wrth wraidd y broses o gynllunio gwasanaethau.
Dirprwy Lywydd, mae Cymru'n cyflawni y tu hwnt i bob disgwyl o ran swyddi a sgiliau technoleg, ac roedd adroddiad diweddaraf Tech Nation Visa yn tynnu sylw at lwyddiant ysgubol Cymru. Rydym ni wedi gweld newid sylweddol yn y galw am sgiliau seiber a deallusrwydd artiffisial yng Nghymru, a chynnydd o 200 y cant yn y galw am swyddi deallusrwydd artiffisial dros y tair blynedd diwethaf. Mae'r cynllun adfer economaidd sydd ar y gorwel yn addo adeiladu ar hynny. Gan dderbyn argymhellion yr Athro Brown i gyflymu trawsnewid diwydiannol, pwyslais y cynllun fydd annog datblygiad clystyrau arloesi digidol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda diwydiant, sefydliadau ymchwil a rhanddeiliaid eraill i gyd-gynhyrchu'r partneriaethau y bydd eu hangen er mwyn i'r clystyrau hyn ffynnu.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn ymgysylltu â chyflogwyr mewn digwyddiad ar-lein i gyflymu'r defnydd o'r cyfrwng digidol yn eu busnesau. Mae ein rhaglen Cyflymu Cymru yn parhau i gynnig cymorth ymarferol, a bydd canfyddiadau diweddaraf ein mynegai aeddfedrwydd digidol yn dangos y cynnydd yr ydym yn ei wneud.
Mae prifysgolion yn chwarae rhan hollbwysig hefyd, ac rwy'n falch iawn bod prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor wedi dod at ei gilydd mewn prosiect ar y cyd er mwyn creu cyflymydd cenedl ddata. Roedd hwn yn un o argymhellion penodol adolygiad Brown, ac mae ganddo'r potensial i roi mantais i Gymru wrth gymhwyso ymchwil, datblygu ac arloesi mewn deallusrwydd artiffisial a gwyddor data. Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a chyllidwyr y DU i gyflwyno'r achos dros gefnogi'r bartneriaeth hon.
Heddiw, rydym yn barod i lansio strategaeth ddigidol newydd i Gymru, ond yn hytrach na'i chyhoeddi fel cynnyrch gorffenedig, rwy'n awyddus i gofleidio dull gweithredu o gyfrannu torfol. Rydym yn ei roi ar-lein, ar ffurf ddrafft, i bobl gynnig sylwadau, beirniadu a gwella. Nid yw'r cyfrwng digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig, Llywydd, mae'n ymwneud ag agwedd agored at arloesi, ac yn yr ysbryd hwnnw, rwyf hefyd yn cyhoeddi'r cyntaf mewn cyfres o negeseuon blog er mwyn i ddinasyddion lunio ein strategaeth ddigidol. Byddwn yn ystyried awgrymiadau a'r bwriad yw cyhoeddi fersiwn derfynol ym mis Mawrth.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod hwn yn faes polisi yr wyf wedi bod yn angerddol yn ei gylch ers i mi ymuno â'r Senedd yn 2016. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd dros y pedair blynedd diwethaf, ond yn sicr mae llawer mwy i'w wneud. Rwyf yn cydnabod y rhan y gall y Llywodraeth ei chwarae wrth ddarparu cyfeiriad ar gyfer yr agenda hon, ond nid mater i'r Llywodraeth yn unig yw arwain y daith hon. Ni all y Llywodraeth ar ei phen ei hun symud yn ddigon cyflym i gynyddu ar yr un raddfa a'r newid digidol, a rhaid i ddinasyddion, busnesau a sefydliadau chwarae eu rhan i dyfu'r mudiad hwn yng Nghymru yn effeithiol. Nid yw newid yn ddewis, ac oni bai ein bod yn fodlon gadael iddo ddigwydd i ni, rhaid i bob un ohonom ni weithio gyda'n gilydd i ddefnyddio'r newid er budd dinasyddion Cymru. Diolch.