Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Wel, diolch am y sylwadau yna, Russell George. Gallaf deimlo nad yw ei lefelau ynni yr un fath heddiw oherwydd ei broblemau TG, a chredaf y rheswm yn ôl pob tebyg yw absenoldeb Winston Churchill yn hongian y tu ôl iddo, sydd wedi bod yn gydymaith rheolaidd i Russell yn ystod ei bresenoldeb digidol yn y Siambr. Felly, rwy'n credu ei fod yn colli ei ysbryd heddiw, efallai.
Yn sicr, dydw i ddim yn adnabod y darlun ohonof sef nad ydw i'n rhywun sy'n hoffi beirniadaeth. Yn sicr, rwy'n awyddus i gael beirniadaeth ac yn awyddus i'w annog. Nid yw'n golygu fy mod bob amser yn cytuno â hi pan fyddaf yn ei chael, wrth gwrs, ond mae hynny'n fater gwahanol, a chredaf, drwy gyhoeddi'r strategaeth hon fel dogfen cyfrannu torfol, rydym yn cydnabod bod y Llywodraeth, yn rhy aml, yn eistedd mewn ystafelloedd ar ei phen ei hun ac yn llunio cynllun nad yw'n ei brofi gyda'r bobl sy'n ei weithredu yn y byd go iawn. Dyna pam rwyf yn awyddus i wneud hyn. Gan gymdeithas sifil mae'r arbenigedd yma, ac rwyf wir eisiau iddyn nhw deimlo eu bod yn berchen ar y strategaeth hon ac yn gallu ei newid, fel bod ganddi fwy o siawns o lawer o gael ei gweithredu pan gaiff ei chyhoeddi ym mis Mawrth os oes teimlad ei bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau a phroblemau'r byd go iawn.
Gofynnodd sut rydym yn gwerthuso sut mae gwasanaethau cyhoeddus wedi addasu. Credaf fod hwnnw'n gwestiwn da, a soniais mewn eiliad o onestrwydd yn ystod yr araith am rai o'n mentrau, er eu bod yn llawn bwriadau da, a oedd yn aflwyddiannus. Felly, cyflwyno dyfeisiau digidol i gartrefi gofal y soniais amdanyn nhw yn y datganiad. Rydym ni wedi llongyfarch ein hunain, a hynny'n briodol, am lwyddo i'w cyflwyno mor gyflym, ond rydym ni wedi synnu o nodi nad yw nifer ohonyn nhw wedi cael eu defnyddio. Nid yw hynny'n annodweddiadol o ystyried profiad blaenorol. Roeddwn yn ymwybodol, o glywed sïon o'r blaen fod cyfrifiaduron llechen wedi eu rhoi i athrawon ysgol, a bod llawer ohonyn nhw yn gorwedd mewn droriau heb eu defnyddio. Credaf fod hynny'n dod â ni at un o'i bwyntiau am sgiliau a hyder, a'r cysyniad o allgáu, oherwydd pan soniwn am allgáu digidol, rydym ni, mi gredaf, yn creu delwedd o bobl nad oes ganddyn nhw sgiliau o gwbl, ond mae allgáu mewn gwirionedd yn llawer ehangach na hynny. Mae'n ymwneud â'r gallu i elwa i'r eithaf ar y dechnoleg. Felly, efallai na all rhai pobl ond gwneud y pethau sylfaenol heb gael y manteision llawn.
Felly, rydym yn sicr yn ymwybodol eisoes o'r gwasanaethau yr ydym ni wedi'u cyflwyno nad yw hi'n ddigonol rhoi pecyn i bobl yn unig. Mae'n rhaid i chi newid y diwylliant ac mae'n rhaid i chi eu galluogi a rhoi'r sgiliau iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu ei ddefnyddio. Rwy'n credu mai dyna bwynt allweddol y dull digidol hwn. A gofynnodd sut yr ydym yn sicrhau nad yw pobl yn cael gwasanaeth israddol. Rwy'n credu bod y ddau gysyniad hyn yn gysylltiedig. Roedd holl ddiben sefydlu'r ganolfan ddigidol hon ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nglynebwy yn seiliedig ar broses o ddarganfod, fel y'i gelwir, ymarfer ymchwil i ddeall beth oedd yr anghenion, a gwelsom nad oedd llawer o arweinwyr a gweision cyhoeddus yn teimlo'n hyderus ynghylch y cyfrwng digidol, nad oedden nhw'n deall ei botensial, ac nad oedden nhw mewn gwirionedd yn deall y cysyniad o gynllunio gwasanaethau drwy ystyried y defnyddiwr terfynol. Felly, rydym ni bellach yn cyflwyno rhaglen hyfforddi i weision cyhoeddus yn gyflym er mwyn iddyn nhw ddeall hyn. Ac ar ôl i ni gael hyn yn iawn, bydd gwasanaeth sydd wedi'i gynllunio gyda'r defnyddiwr mewn golwg yn cael ei gynllunio ar gyfer y rhai sydd ar-lein yn ogystal â'r rhai nad ydyn nhw ar-lein. Felly, ni ddylai'r gallu i ymgysylltu â'r gwasanaeth ddibynnu ar ba mor fedrus ydych chi gyda thechnoleg; dylai'r gwasanaeth gael ei gynllunio mewn modd y gellir ei ddefnyddio gan bobl pa un a ydyn nhw'n defnyddio technoleg ar-lein ai peidio. Ac rwy'n credu bod hynny'n newid diwylliant pwysig iawn yr ydym ni yn ei gofleidio, ac mae hynny'n hanfodol, gan droi at ei bwynt arall am yr angen i gael pobl ar ein hochr ni. Felly, ni ddylem fod angen tsar cynhwysiant digidol; dylem brif ffrydio cynhwysiant i'r ffordd yr ydym yn cynllunio gwasanaethau, a chredaf mai dyna'r dull yr ydym yn ei fabwysiadu.
Gofynnodd am y newyddion diweddaraf am 'Cyflymu Cymru' yn ystod mis Tachwedd. Ymddiheuraf os yw hynny ddiwrnod yn hwyr. Rwyf yn sicr wedi cymeradwyo hynny a gobeithio y bydd yn cael hynny cyn diwedd heddiw, os nad yfory. Ond rydym yn sicr wedi ymrwymo i gadw'r llif hwnnw o wybodaeth yn llifo ac i'w helpu yn ei allu i'n dwyn i gyfrif o ran cyflawni. Mae ei gwestiwn ynglŷn â sut y cawn ein dwyn i gyfrif yn un diddorol, oherwydd cyfeiriodd at gyflawni yn Llywodraeth Cymru, a chredaf mai dyma'r pwynt yr wyf wedi dod i'w ddeall ers ymgymryd â'r swydd hon—a soniais am hyn yn y datganiad—mae Llywodraeth Cymru yn chwaraewr bach yn hyn o beth, ac rwy'n credu na ddylem ni weld Llywodraeth Cymru fel prif sbardun y newid hwn. Rydym yn gatalydd, ac mae'n rhaid inni weithio gydag eraill—sefydliadau eraill a phartneriaid eraill—i wneud i hyn ddigwydd, oherwydd ni all Llywodraeth Cymru symud yn ddigon cyflym, ac nid oes ganddi'r pwysau i gwrdd â maint y newid a'r her y mae awtomeiddio'n ei gyflwyno inni. Mae ganddi swyddogaeth, ac nid wyf yn ceisio osgoi hynny, ond nid wyf yn credu y dylem ni weld ein hunain yn arwain ar hyn; rydym yn rhan o ecosystem y mae angen iddi sicrhau newid.
Ei gwestiwn olaf am ymchwil a datblygu—rydym yn edrych ymlaen at ragor o fanylion am gyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd yn cynyddu'r gwariant ar ymchwil a datblygu. Rydym yn sicr wedi cael trafodaethau yn y cyfnod cyn ein cyllideb ein hunain ynglŷn â beth arall y gallwn ei wneud fel rhan o'r agenda hon, ac edrychaf ymlaen, fel y mae ef, at glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog cyllid i'w ddweud am hynny.