Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i hefyd fod yn rhan o'r ddadl bwysig yma, sydd efallai yn torri cwys newydd yn ein hanes, wrth gwrs—dadl ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams. Yn y lle cyntaf, dwi hefyd yn diolch i Syr Wyn Williams am ei waith dros y blynyddoedd, ac yn ategu'r holl eiriau caredig rydyn ni wedi eu dweud amdano fe eisoes, yn enwedig geiriau'r Cwnsler Cyffredinol.
Mae'r cefndir, fel mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi olrhain—. Achos yn naturiol, mae rhai ohonom ni wedi bod yn clochdar ers blynyddoedd am yr angen i ddatganoli'r gyfundrefn gyfiawnder—plismona, carchardai, gwasanaeth prawf ac ati—i'r Senedd yma. Mae'n ddigon hawdd, felly, anghofio bod un rhan o'r system gyfiawnder eisoes yn ddatganoledig, a dyna'r system rydyn ni'n ei thrafod y prynhawn yma—rydyn ni'n anghofio hynny weithiau; wel, yn eithaf aml, mae'n rhaid dweud—sef y system gyfiawnder gweinyddol, sydd yn edrych ar sut rydyn ni'n gweinyddu'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn ddatganoledig yma; y gwahanol tribiwnlysoedd, hynny yw, mewn chwe gwahanol faes. Ac fel Aelod o'r Senedd yma dros y blynyddoedd, dwi wedi bod ynghlwm ag ambell i dribiwnlys wrth gynrychioli etholwyr sydd efo problem—anghydfod, fel rheol, gyda'r sir lleol ynglŷn â'r gyfundrefn addysg arbennig.
Tribiwnlys arall, wrth gwrs, ydy'r un sydd yn adolygu iechyd meddwl, a hwnna, wrth gwrs, o edrych ar y ffigurau, ydy'r prysuraf oll o'r hanner dwsin ohonyn nhw. Ond fel mae'r Cwnsler Cyffredinol eisoes wedi olrhain, mae'r tribiwnlysoedd eisoes yn cyfro tiroedd megis tir amaethyddol yn ogystal ag iechyd meddwl ac anghenion addysgu ychwanegol, hefyd tribiwnlys y Gymraeg a'r tribiwnlysoedd eiddo preswyl. Af i ddim i droedio ar yr un un tir ag y mae David Melding newydd sôn, ond, wrth gwrs, mae yna le i gryfhau gwaith y tribiwnlysoedd yma, yn enwedig rŵan wrth i Lywodraeth y Senedd yma fod yn deddfu o'r newydd mewn rhai meysydd datganoledig megis tai, a bydd hynna, wrth gwrs, â'r potensial i greu gwaith y buasem ni'n ei gyfarch—a rhaid iddo fo ddigwydd—i'r tribiwnlysoedd. Ac, wrth gwrs, mae yna dribiwnlys panel dyfarnu, hefyd.
Felly, mae yna doreth o waith sydd eisoes yn mynd yn ei flaen, a dwi'n siŵr bod y rhan fwyaf ohonom ni ddim yn sylweddoli bod y gwaith cyfiawnder yna eisoes wedi'i ddatganoli i fan hyn. Wrth gwrs, bu i Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd yma fod yn craffu ar waith y tribiwnlysoedd yn y gorffennol, a dwi'n siŵr y bydd y Cadeirydd, os bydd e'n siarad, yn olrhain union graffu ein pwyllgor deddfwriaeth yma yn y Senedd, gan gynnwys cael Syr Wyn Williams i'n pwyllgor yn rhithiol.
Wrth gwrs, fel mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i olrhain, cefndir hyn oll ydy adroddiad comisiwn Thomas, y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a oedd yn olrhain, fel y mae pawb yn gwybod, y sefyllfa bresennol yng nghylch cyfiawnder a throsedd yng Nghymru, ei fod yn hollol anfoddhaol a'r angen i'w newid a'i chryfhau. Mae'r system tribiwnlysoedd yn rhan o hynny, yn naturiol, ond, wrth gwrs, mae angen diogelu annibyniaeth y tribiwnlysoedd hefyd oddi wrth Lywodraeth Cymru. Jest i bwysleisio'r pwynt—hynny yw, y ffordd mae'r tribiwnlysoedd yn cael eu hariannu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan Lywodraeth, ond wrth gwrs, mae disgwyl iddyn nhw hefyd fod yn dyfarnu'n annibynnol oddi wrth Lywodraeth hefyd yn y gwahanol feysydd, megis tai, addysg ac iechyd meddwl. Mae hynna'n her, a buaswn i'n dweud hefyd yn her i dribiwnlys y Gymraeg hefyd: neilltuo a sicrhau annibyniaeth y tribiwnlysoedd fel mae eu pwerau nhw'n cynyddu, a buasem ni'n disgwyl gweld eu pwerau nhw'n cynyddu wrth i'r blynyddoedd fynd heibio.
Wrth gwrs, fy mhwynt olaf i rŵan ydy bod y pandemig COVID wedi cael effaith syfrdanol ar weithgaredd ein tribiwnlysoedd, fel mewn pob gweithgaredd arall, ac mae nifer o'r tribiwnlysoedd wedi mynd ar-lein, wedi cael cyfarfodydd rhithiol, yn delio efo problemau, yn enwedig ynglŷn â thribiwnlysoedd iechyd meddwl, dros y ffôn ac ati, yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb, achos doedd hi ddim yn bosibl cyfarfod wyneb yn wyneb y rhan fwyaf o'r flwyddyn yma, ond eto, mae gwaith y tribiwnlysoedd yn mynd rhagddo.
Felly, i orffen, cychwyn ar y ffordd ydyn ni. Mae nifer ohonom ni yn y Senedd yma eisiau gweld y system, y gyfundrefn gyfiawnder a throsedd, wedi cael ei datganoli yn gyfan gwbl i'r Senedd yma. Rydyn ni'n canolbwyntio yn fan hyn ar y darn sydd eisoes wedi'i ddatganoli, ac rydyn ni eisiau gweld cryfhau hwnna, hefyd, fel gweld cryfhau'r ffordd yr ydyn ni'n delio efo cyfiawnder a throsedd yma yng Nghymru, y ffordd yn dod yn glir, adeiladu ar y seiliau sydd gyda ni gan weld y dydd pan fyddwn ni'n gweld datganoli'r system plismona, carchardai, gwasanaeth prawf, y system cyfiawnder troseddol yn ei gyfanrwydd yma yn nwylo pobl Cymru, yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.