Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 1 Rhagfyr 2020.
A gaf i ymddiheuro os yw unrhyw beth a grybwyllaf yn fy nghyfraniad eisoes wedi cael sylw yn y rhan o araith y Cwnsler Cyffredinol a gyflwynwyd yn Gymraeg? Nid oedd y cyfieithu yn gweithio ar fy nyfais i, mae arnaf ofn.
Rwy'n credu bod hwn yn adroddiad defnyddiol iawn wrth ddadansoddi gweithrediad tribiwnlysoedd yng Nghymru, ac felly bydd o ddiddordeb cyffredinol i bobl, oherwydd gall yr ystadegau ynglŷn â defnydd tribiwnlysoedd fod yn ddangosydd da iawn o ba mor llyfn y mae meysydd polisi cyhoeddus allweddol yn rhedeg o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru a chyfraith Cymru. Rwy'n siŵr bod y rhai sydd wedi edrych ar yr adroddiad wedi gweld y rhan honno'n ddiddorol iawn—i weld y newidiadau amrywiol o ran defnydd, i fyny ac i lawr. Yn aml, mae rhesymau penodol dros hynny, wrth gwrs, ond mae'n dal yn ddangosydd da iawn.
O ddiddordeb arbennig i mi yw'r hyn sydd gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Syr Wyn Williams, i'w ddweud am argymhellion 25 a 27 y comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru, y cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol ato. Mae argymhelliad 25 yn nodi y dylai pob corff cyhoeddus, ombwdsmyn, fel yr ydym ni yn dal i'w galw, a thribiwnlysoedd eraill a sefydlwyd o dan gyfraith Cymru gan Lywodraeth Cymru ac sy'n gwneud penderfyniadau barnwrol neu led-farnwrol gael eu dwyn o dan oruchwyliaeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ac mae argymhelliad 26 yn nodi y dylai uned Tribiwnlysoedd Cymru fod yn strwythurol annibynnol ac y dylid defnyddio Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer datrys anghydfodau sy'n ymwneud â deddfwriaeth Cymru yn y dyfodol. Fel y mae Syr Wyn yn nodi, os caiff ei dderbyn a'i weithredu, byddai'r argymhellion hyn yn cynyddu llwyth gwaith rhai tribiwnlysoedd yn sylweddol. Mae'n nodi pa mor sylweddol fyddai nifer yr anghydfodau sy'n deillio o iechyd, addysg, tai a chyfraith amaethyddol.
Yn benodol, mae Syr Wyn yn dyfynnu deddfwriaeth tai, lle mae'n rhaid i anghydfodau gael eu datrys ar hyn o bryd gan y llys sirol. Ond fel y gwyddom ni o'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd, o ran y Bil rhentu cartrefi, ni fydd yn rhoi terfyn ar droi allan heb fai, ond credaf fod pawb sydd wedi edrych ar y Bil hwnnw'n sylweddoli bod yn rhaid iddo ganiatáu i landlordiaid droi yn effeithiol at y gyfraith pan fydd ganddyn nhw achos i droi allan. Oherwydd ein bod ni wedi symud, yn gwbl briodol yn fy marn i, i system sy'n seiliedig ar fai, i ffwrdd o'r system dim bai, i bob pwrpas, sydd wedi goroesi ers diwedd y 1980au. Ond ar hyn o bryd, mae mynd ag achos i'r llysoedd sirol a'r gost dan sylw a'r amser a gymerir yn aml yn rhwystr sylweddol iawn. Felly, roedd adroddiad pwyllgor Cyfnod 1 yn adlewyrchu ar hyn ac yn wir gofynnodd i Lywodraeth Cymru edrych ar y cysyniad o dribiwnlys tai yn ymwneud â'r rhan hon o gyfraith dai a datrys anghydfodau.
Felly, rwy'n credu bod hynny'n enghraifft glir iawn o sut y gellid defnyddio tribiwnlysoedd yn fwy effeithiol, a chredaf ein bod i gyd yn credu bod defnyddio tribiwnlysoedd wrth weinyddu cyfraith gyhoeddus yn aml yn effeithiol iawn ac yn caniatáu mwy o fynediad i'r system gyfreithiol nag y byddai dinasyddion yn ei gael drwy'r llysoedd sirol. Felly, rwyf yn croesawu'r ffordd yr aethpwyd ati, ac rwy'n cymeradwyo, fel y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol, yr ail adroddiad hwn gan lywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Diolch yn fawr, Llywydd.