7. Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 1 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:19, 1 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd aelodau wedi cael cyfle i ystyried ail adroddiad blynyddol y llywydd, ac, fel fi, rwy'n credu, byddan nhw wedi'i ddarllen gyda diddordeb. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae tribiwnlysoedd Cymru wedi gweithredu'n effeithiol, gan sicrhau bod defnyddwyr tribiwnlysoedd wedi parhau i allu sicrhau cyfiawnder yn briodol. Bydd adroddiad blynyddol nesaf y llywydd, rwy'n tybio, yn myfyrio'n fanylach ar effaith pandemig y coronafeirws.

Nid oes amheuaeth nad yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd y cyfnod adrodd wedi peri risgiau sylweddol o ran gallu sicrhau cyfiawnder, ac, i'r rheini a fyddai'n gallu troi at y tribiwnlys adolygu iechyd meddwl, y posibilrwydd o ymyrryd â'u hawl i gael prawf teg. Ond gyda dim ond rhai gohiriadau, mae tribiwnlysoedd Cymru wedi parhau i weithredu, ac rwy'n cael fy sicrhau'n benodol gan y ffordd y mae'r tribiwnlys adolygu iechyd meddwl wedi parhau i allu gwaredu achosion heb fod angen dibynnu ar y mesurau brys a nodir yn Neddf Coronafeirws 2020, sydd i bob pwrpas wedi diogelu hawliau cleifion o ganlyniad. Yn fy marn i, mae'r ffordd y mae pawb sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd Cymru wedi ymateb mewn amgylchiadau gwirioneddol eithriadol wedi bod yn drawiadol iawn. 

Gan droi at yr agenda cyfiawnder ehangach, mae'r ail adroddiad blynyddol yn rhoi sylwadau ar y comisiwn ar gyfiawnder, ac yn enwedig ar yr argymhellion sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd Cymru. Roedd Syr Wyn Williams, wrth gwrs, yn gomisiynydd ei hun. Cyfeiriodd comisiwn Thomas at y gwaith sydd i'w ddatblygu gan Gomisiwn y Gyfraith i dribiwnlysoedd yng Nghymru ac y byddai Comisiwn y Gyfraith yn gallu ystyried diwygio'n fanylach nag y gallai comisiwn Thomas ei hun. Ac er ei fod wedi'i ohirio ychydig, rwy'n falch bod prosiect Comisiwn y Gyfraith bellach ar y gweill ac yn debygol o adrodd yn ôl yn ystod haf y flwyddyn nesaf.

Er fy mod i yn siomedig na allwn ni adrodd am gynnydd pellach nag a wnaethom ni o ran bwrw ymlaen ag adroddiad y comisiwn cyfiawnder, mae'r agenda cyfiawnder yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Yr effeithiau mwyaf ar ddiwygio'r system gyfiawnder yw datblygu materion sy'n gofyn am fewnbwn gan Lywodraeth y DU. A realiti'r sefyllfa bresennol, wrth gwrs, yw bod blaenoriaethau mwy uniongyrchol yn wynebu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, lle mae pandemig y coronafeirws a diwedd cyfnod pontio'r UE, wrth gwrs, ar frig yr agenda. Ond nid oes amheuaeth nad yw'r ymateb i'r pandemig wedi taflu goleuni ar rychwant eang iawn cymhwysedd Llywodraeth Cymru a'r Senedd mewn meysydd a ystyrir yn draddodiadol, efallai, fel rhai a gadwyd yn ôl.

Os gallwn ddeddfu yn y meysydd hyn yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, pam nad at ddibenion eraill sy'n cyfuno cyfiawnder â meysydd cyfrifoldeb sydd eisoes wedi'u datganoli? Os rhywbeth, mae'r dadleuon a wnaed gan y comisiwn ar gyfiawnder dros newid cyfansoddiadol a datganoli cyfiawnder wedi'u cryfhau gan yr amgylchiadau eithriadol y buom ynddyn nhw dros y chwe mis diwethaf a bydd hynny'n parhau hyd y gellir rhagweld. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r hyn a allwn ni yng Nghymru, a byddwn yn defnyddio ein profiadau ar y cyd yma yng Nghymru i geisio creu consensws a chefnogaeth i'r ddadl dros newid, i ddatblygu hynny gyda Llywodraeth y DU pan fydd yr amser yn briodol ar gyfer hynny.

Dirprwy Lywydd, wrth gloi, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i ddiolch i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei ail adroddiad blynyddol.