8. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws — Cyfyngiadau Mis Rhagfyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 1 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:51, 1 Rhagfyr 2020

Diolch yn fawr, Llywydd. Ddydd Gwener, byddwn yn cryfhau ein rheolau mewn ymateb i’r cynnydd mewn achosion coronafeirws yng Nghymru. Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ddoe yn tynnu sylw’r Aelodau at y rheolau newydd. Prynhawn yma, byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i esbonio’r cefndir a phaham fod angen gweithredu nawr. 

Yn gryno, mae'r feirws yn dal i ledaenu'n gyflym yng Nghymru, ac mae'n rhaid inni ymateb er mwyn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd wrth inni baratoi am gyfnod y Nadolig. Buodd y toriad brys mis diwethaf yn llwyddiannus yn dod â nifer yr achosion i lawr ar draws Cymru. Ond does dim osgoi’r ffaith bod y niferoedd yn cynyddu unwaith eto, fel y gwelsom ar draws y Deyrnas Unedig, a ledled Ewrop a'r byd cyfan.