Achosion o COVID-19 mewn Ysbytai

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 1:40, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'n amlwg y bydd cyflwyno brechlyn o fewn y dyddiau nesaf, fel y dywedir wrthym, yn bwysig iawn ar gyfer rheoli'r feirws yn amgylchedd yr ysbyty. Wrth gwrs, un agwedd ar y brechlyn penodol hwn yw bod rhaid ei gadw ar -70 gradd canradd, sy'n golygu y bydd ei reoli a storio’r brechlyn yn dasg dechnegol anodd dros ben. A yw'n debygol y bydd brechu mewn ysbytai yn un o'r blaenoriaethau mwyaf pan fydd modd cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru? A allwch roi mwy o wybodaeth inni ynglŷn â hyn?