Mercher, 2 Rhagfyr 2020
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy...
Awn ymlaen yn awr gyda'r busnes fel y'i nodir ar y papur trefn. Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a daw’r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.
1. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i fyrddau iechyd lleol ar atal achosion o COVID-19 mewn ysbytai? OQ55951
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau diagnostig ledled Cymru? OQ55970
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd trafodaethau rhynglywodraethol ynghylch yr ymateb i COVID-19? OQ55979
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am driniaeth colli golwg yng ngogledd Cymru? OQ55966
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthu brechlynnau COVID-19 ledled Cymru? OQ55958
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau diogelu iechyd ym Mlaenau Gwent? OQ55955
9. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda swyddogion iechyd lleol a chynghorwyr sir ynghylch cyfraddau achosion COVID-19 yng ngorllewin Cymru? OQ55982
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay.
1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yn ne Cymru? OQ55956
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ynghylch rheoliadau COVID-19? OQ55978
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
3. Pa effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru? OQ55961
4. Pa strategaethau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau fod modd cadw siaradwyr Cymraeg ifanc yn y gymuned leol, yn enwedig mewn cymunedau gwledig? OQ55976
5. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo gwydnwch gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19? OQ55968
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl y tu allan i oriau arferol? OQ55980
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ddarpariaeth iechyd meddwl yn Llanelli? OQ55977
8. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i glybiau rygbi a phêl-droed cymunedol sydd wedi cael eu gorfodi i gau eu cyfleusterau oherwydd COVID-19? OQ55960
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac i'w ofyn gan Llyr Gruffydd.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau'r toriadau i gyllid amaethyddol Cymru a gyhoeddwyd yn adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar 25 Tachwedd 2020? TQ512
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Mike Hedges.
Reit. Felly, yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. A dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig— Jayne Bryant.
Rydym yn ailymgynnull ar eitem 6, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol. Galwaf ar Gadeirydd y...
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Datgarboneiddio trafnidiaeth', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig hwnnw, Russell George.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, adroddiad 02-20. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jayne...
Y ddadl fer, felly, sydd nesaf, ac mae dadl heddiw i'w chyflwyno gan Darren Millar ar fywyd gwyllt eiconig Cymru—helyntion y wiwer goch yng Nghymru. Dwi'n galw ar Darren Millar i gyflwyno'r...
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogwyr yn dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ymgysylltiad Llywodraeth y DU â'r llywodraethau datganoledig ar ymateb cydgysylltiedig i COVID-19?
Pa fentrau sy'n cael eu cynllunio gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia