Gwasanaethau Diagnostig

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:45, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, byddwch wedi clywed o'r blaen am y potensial am ddiagnosteg gynnar rydym wedi’i weld yn ysbyty Baglan, er enghraifft, pan ydym yn sôn am ganserau. Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad y cyfeiria David ato yn sicrhau bod y gwaith yno'n parhau yn gyflym. Ond roeddwn am ofyn i chi’n benodol heddiw am rôl deintyddion, gan fod eu rôl yn sylwi ar ganserau posibl yn y geg yn ystod triniaethau arferol yn dra hysbys. Mae'n ddealladwy fod y canllawiau cyfredol i ddeintyddion yn gyfyngol, ond a ydych yn gwybod i ba raddau y mae'r ffigurau canfod cychwynnol ar gyfer canserau'r geg wedi cael eu heffeithio ers mis Mawrth, ac a fyddech yn ystyried adolygu'r canllawiau pe bai gostyngiad amlwg wedi bod?