Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, bythefnos yn ôl, cyhoeddodd y grŵp trawsbleidiol ar ganser ei adroddiad ar y llwybr canser sengl ac effaith COVID-19 ar wasanaethau canser, ac un o'r argymhellion amlwg oedd buddsoddi mewn gwasanaethau diagnostig, mewn offer, mewn lleoliadau ac mewn pobl—pobl y mae eu hangen yn fawr. Mae Cymorth Canser Macmillan hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i lefelau gwasanaethau diagnostig ddychwelyd i’r hyn oeddent cyn y pandemig, ac i lefelau uwch na chyn y pandemig mewn gwirionedd, fel y gellir mynd i’r afael ag unrhyw ôl-groniad sydd wedi'i greu o ganlyniad i COVID-19. Nawr, er mwyn gwneud hyn oll, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo adnoddau i'r gwaith o gyflawni hynny. A wnewch chi ymrwymo ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd cyllid ar gael i gynyddu adnoddau ar ffurf offer a gweithlu i wasanaethau diagnostig yng Nghymru?