Cyfraddau COVID-19 yn y Gorllewin

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:26, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb. Mae nifer o ddigwyddiadau diweddar wedi dangos pa mor ansefydlog yw'r sefyllfa hon, pa mor gyflym y gall digwyddiadau orlethu gwasanaethau iechyd lleol, a pham fod camau gweithredu cadarn i reoli'r feirws yn hanfodol. Bu’n rhaid i fwy na dwsin o ysgolion, meithrinfeydd a champws coleg gau yn Sir Benfro a Cheredigion ar ôl cynnydd lleol yn nifer yr achosion, ac mae nifer o gleifion wedi profi’n bositif am COVID-19 yn ysbytai dyffryn Aman a Llanymddyfri. Ar y sefyllfa honno, deallaf fod cryn dipyn o staff ar y ddau safle hefyd wedi profi’n bositif ac yn hunanynysu, ac mae hynny wedi arwain at gyfyngiadau sylweddol ar y gweithlu hwnnw. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny os gwelwch yn dda, a helpu i roi sicrwydd i fy etholwyr fod y ddau safle'n parhau i ddarparu gofal diogel i'w cleifion?