Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr. Sefydlodd fy nghyd-Weinidog a minnau dasglu twristiaeth ar ddechrau'r pandemig, gan gyfarfod yn wythnosol i drafod yr holl eitemau sy'n effeithio ar y diwydiannau, gan gynnwys effaith rheoliadau COVID. Mae gennym gyfres gyfochrog o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid lletygarwch, digwyddiadau a phriodasau.