Y Diwydiant Twristiaeth

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:38, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n lliniaru hyn yn wythnosol, oherwydd rwy'n cyfarfod â fy nghyd-Aelodau yn y DU ym mhob un o'r sectorau y mae gennyf gyfrifoldeb amdanynt. Mae Croeso Cymru wedi gweithio'n agos iawn gydag UKHospitality, Cynghrair Twristiaeth Cymru a Chydweithfa Bwytai Annibynnol Cymru. Mae'r holl gyrff cynrychiadol hyn yn y maes twristiaeth yng Nghymru mewn cysylltiad rheolaidd â gweddill y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb brwd iawn yn yr hyn y mae Gogledd Iwerddon a'r Alban a Lloegr yn ei wneud yn y meysydd hyn, ond rwyf hefyd yn gweithio o fewn y ddeddfwriaeth ddatganoledig a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru rwy'n falch o fod yn Weinidog ynddi.