Gwasanaethau Iechyd Meddwl y Tu Allan i Oriau Arferol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:11, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwyf mor falch fod gwasanaeth Noddfa Gyda'r Hwyr bellach ar waith yn Sir Benfro. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yn darparu lloches ddiogel i oedolion sy'n profi trallod meddwl yn yr oriau tyngedfennol pan fydd gwasanaethau cymorth eraill ar gau. Mae'n dilyn llwyddiant y prosiect hwnnw yn Llanelli. Fel gwasanaeth ataliol, mae'n darparu mynediad cynnar at gymorth, ac mae hynny'n gwneud llawer i leihau dibyniaeth ar wasanaethau iechyd meddwl craidd, a thrwy hynny'n lleddfu'r straen ar y system yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn i bobl. Felly, a fyddwch yn monitro'r cynllun i weld a ellir ymestyn a chyflwyno'r cynllun peilot tri mis ledled y wlad?