Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn teg, oherwydd os edrychwch ar enghreifftiau fel Noddfa Gyda'r Hwyr, talwyd am y rhaglen honno gan y gronfa drawsnewid, felly yr hyn y mae angen inni ei wneud yw edrych ar yr hyn sy'n gweithio a cheisio ei brif ffrydio wedyn. Felly, mae honno'n sicr yn neges rwyf wedi bod yn ei mynegi'n glir iawn i fy swyddogion, fod gwir angen inni ymgorffori'r cymorth haen 0 a haen 1 hwn, sy'n aml yn cael ei roi a'i ddosbarthu a'i wasanaethu'n well o lawer gan y trydydd sector. Yn sicr, gwn fod iechyd meddwl Mind yn Llanelli yn gwneud gwaith gwych. Cyfarfûm â rhywun o Mind yr wythnos diwethaf a oedd yn sôn am y pwysau enfawr y maent yn ei wynebu nawr mewn perthynas â materion iechyd meddwl oherwydd y dirywiad yn yr economi yn yr ardal honno. Felly, yn sicr, dyna yw fy mwriad—sicrhau y gallwn edrych ar fframwaith mwy hirdymor lle gallant ddeall y bydd yr arian yno ar gyfer y tymor hwy. Oherwydd mae angen i ni gadw'r sgiliau y mae pobl yn eu datblygu yn y cymunedau hynny hefyd.