Clybiau Rygbi a Phêl-Droed Cymunedol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 2 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:17, 2 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Huw. Rydych wedi rhoi her i mi ac ni allaf ddweud 'na' wrthi, oherwydd un o fy mhrif genadaethau drwy gydol yr argyfwng hwn yw sicrhau ein bod yn chwilio am bwyntiau adfer, pwyntiau ymateb creadigol, ac os gallwn gael hynny ym maes chwaraeon, byddai hynny mor bwysig.

Mae'r ffigurau presennol yn dda iawn. Mae clybiau rygbi'r undeb cymunedol yn cael dros £188,000, mae clybiau pêl-droed cymunedol yn cael dros £500,000, ac mae cronfa Cymru Actif yn dal i fod ar agor, lle mae Chwaraeon Cymru yn prosesu ceisiadau cyn gynted ag y gallant. Ond rwy'n derbyn eich her, a byddwn yn ddiolchgar pe baech yn fy helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni hyn cyn diwedd y Senedd hon.