Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr iawn, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau a'r pwyllgor am y ddadl a'r adroddiad? Mae pandemig coronafeirws yn ein hatgoffa'n rymus ein bod yn dal i fod yn ddarostyngedig i natur, ac mae hefyd yn dangos bod gan y ffordd rydym yn trin y byd naturiol allu i effeithio ar bob un ohonom, mewn ffordd ddwys a phersonol iawn hefyd.
Gellid dadlau bod newid hinsawdd yn fwy o fygythiad na'r pandemig, er dros gyfnodau hwy o amser, ac mae mynd i'r afael â newid hinsawdd yn hynod bwysig i'r Llywodraeth hon, ac rydym eisoes wedi cymryd camau beiddgar, cynnar i ddatgan argyfwng hinsawdd a gosod targedau ar gyfer datgarboneiddio. Mae gan drafnidiaeth yn arbennig rôl fawr i'w chwarae i'n harwain at lwybr carbon is, ac rwy'n gwerthfawrogi'r her a'r gwaith o graffu ar yr adroddiad, a bydd angen mwy ohono os ydym, gyda'n gilydd, yn mynd i wynebu'r heriau y mae datgarboneiddio'r system drafnidiaeth yn eu cyflwyno, a bydd yn cymryd blynyddoedd o ymdrech.
Yn ffodus, nid yw'n gwbl ddiobaith—mae cyfleoedd yma hefyd. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn rhagweld y bydd trosglwyddo i sylfaen technoleg dim allyriadau ar draws pob dull trafnidiaeth yn arbed arian mewn gwirionedd, nid yn costio arian—mwy na £200 miliwn rhwng nawr a 2050 yng Nghymru yn unig. Ac mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi nodi bod Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed allyriadau a nodir yn ein cynllun cyflawni carbon isel cyntaf un. Rydym bellach yn datblygu ail fersiwn o'r cynllun y byddwn yn ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf i gyd-fynd â COP26, ac mae angen i ni wneud cynnydd gwell i sicrhau bod trafnidiaeth yn chwarae ei rhan.
Roedd Helen Mary Jones yn ein herio'n briodol i ddangos sut rydym yn olrhain ein cyllidebau carbon gyda'r targedau datgarboneiddio rydym wedi'u gosod i ni ein hunain, a chredaf mai dyna'r her iawn. Fel rhan o waith strategaeth drafnidiaeth Cymru, rydym wedi comisiynu Arup a Transport for Quality of Life i lunio dadansoddiad manwl o'r cyfraniad sy'n rhaid i drafnidiaeth ei wneud i'n targedau cyffredinol, fel y gallwn wybod, pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau am gynlluniau ffyrdd unigol er enghraifft, neu ymyriadau trafnidiaeth eraill, faint o le sydd gennym o fewn y targedau a osodwyd gennym i ni allu gwneud penderfyniadau gwybodus, rhywbeth nad ydym yn gallu ei wneud ar hyn o bryd. Credaf y bydd hwnnw'n gam pwysig iawn ymlaen ar gyfer llywio penderfyniadau Gweinidogion trafnidiaeth yn y dyfodol.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein huchelgeisiau a'n targedau ar wefru cerbydau trydan a'n cynllun aer glân. Mae'r strategaethau a'r cynlluniau hyn yn gosod y fframwaith ar gyfer cyflawni dros y blynyddoedd nesaf ac rydym wedi dechrau'n rhesymol, gan ddyrannu cyllid eleni o'r gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn i gefnogi 34 o bwyntiau gwefru cyflym ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat yn ninas-ranbarth Caerdydd; hyb gwefru cyflym cyntaf Cymru yn Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin; pwyntiau gwefru ar Ynys Môn; a bysiau trydan yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Camau cyntaf cymedrol yw'r rhain ond rhai pwysig serch hynny.
Ac er y bydd angen buddsoddiad pellach sylweddol iawn i lwyddo i ddatgarboneiddio, bydd angen rhai elfennau o newid ymddygiad hefyd, a bydd hynny'n galw am ddewisiadau gwleidyddol anodd ac arweinyddiaeth gref, nid yn unig ar lefel Llywodraeth ond ar lefel leol hefyd. Ac mae angen i'r Aelodau o'r Senedd yn eu rolau arweinyddiaeth leol eu hunain ddangos dewrder ac arweiniad i wneud y penderfyniadau hyn hefyd. Er enghraifft, pa rôl y gallai codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd ei chwarae? Fel y gwnaethom egluro bythefnos yn ôl, nid oes gan Lywodraeth Cymru farn benodol ar hyn eto, ond mae gennym gyfrifoldeb i ystyried sut y gellid ei ddefnyddio i sicrhau newid ymddygiad mewn ffordd deg, mewn ffordd gyfiawn. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod arnom angen abwyd a ffon i gyflawni'r newidiadau y bydd eu hangen arnom.
Dylem fod yn ymwybodol o rôl Llywodraeth y DU hefyd a'r ysgogiadau a gadwyd yn ôl ganddynt. Er enghraifft, rheolaeth dros seilwaith rheilffyrdd Cymru, rhai pwerau rheoleiddio a gadwyd yn ôl, a phwerau i osod cymhellion ar gyfer cerbydau trydan, ac rydym yn aros i'w cynllun datgarboneiddio trafnidiaeth cyntaf gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Dangosodd Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddiweddar ein hymrwymiad parhaus i ymateb i'r argyfwng hinsawdd mewn modd cydweithredol, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod canlyniadau polisi yn gweithio i Gymru.
Mae'n adeg bwysig, Ddirprwy Lywydd. Mynd i'r afael â newid hinsawdd fydd her ddiffiniol ein cenhedlaeth ac mae gan Gymru gyfle gwych i fod yn arweinydd. Er mwyn manteisio ar hyn, mae angen inni weithredu'n gyflym a chanolbwyntio ein hymdrechion fwyfwy ar ddatgarboneiddio, a rhoi'r gorau i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud erbyn 2050 a meddwl beth arall y gallwn ei wneud nawr. Mae'r dadleuon yn syml: datgarboneiddio, mater o pryd, nid os, ydyw. Po gyflymaf y gweithredwn, y lleiaf fydd yr effaith a'r mwyaf fydd y manteision, a byddwn yn annog y pwyllgor yn gryf i barhau i'n gwthio. Diolch.