Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 2 Rhagfyr 2020.
Felly, beth sydd o'i le ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd? Wel, gallwn edrych ar ddetholiad o'i strategaethau a'i pholisïau ynghylch amaethyddiaeth, bwyd a diod, a cheir llu ohonynt: mae gennym 'Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru: Strategaeth Fwyd i Gymru', y cynllun gweithredu bwyd a diod, cynllun gweithredu strategol diwydiant cig coch Cymru, cynllun gweithredu strategol garddwriaeth, strategaeth y sector llaeth, cynllun gweithredu twristiaeth bwyd Cymru, strategaeth bwyd môr Cymru, ac yn y blaen. Maent i gyd yn iawn yn eu hawl eu hunain wrth gwrs; maent i gyd yn nodi amcanion a chamau gweithredu pwysig. Ond ble, neu ar ba bwynt, y dônt i gyd at ei gilydd? Ble mae'r aliniad sydd yn y pen draw ac ar y cyd yn darparu polisi cenedlaethol?
Gofynnodd y cyn Weinidog Cyfoeth Naturiol a'r cyn Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru roi cyngor ynglŷn ag a oedd strategaeth fwyd Llywodraeth Cymru yn ddigon cynhwysfawr a diweddar, a gwnaeth yr adolygiad nifer o argymhellion, ac mae'n ymddangos, yn anffodus, fod y rheini wedi'u hanwybyddu i raddau helaeth. Yn yr adroddiad, dônt i'r casgliad—ac rwy'n dyfynnu—
Mae gwendidau a rhwystrau yn y modd y llywodraethwyd polisi bwyd yng Nghymru ers 2010, ynghyd â gwell dealltwriaeth bellach o'r gwendidau rhyng-gysylltiedig sy'n sail i systemau bwyd cynaliadwy, yn golygu bod angen dybryd i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth newydd a chlir ar gyfer y system fwyd yng Nghymru.
Ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu mwy nag ailysgrifennu'r strategaeth bwyd a diod; mae angen iddo fynd yn llawer ehangach ac yn llawer dyfnach na hynny.
Felly, mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn system fwyd traws-sector. Rydym yn ychwanegu ein llais at y rhai sy'n galw am i'r comisiwn hwn gael y dasg o ddatblygu cynllun tuag at system fwyd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y gŵyr yr Aelodau rwy'n siŵr, roedd hwnnw'n un o alwadau allweddol y gwaith sylweddol a gomisiynwyd gan y WWF ar hyn, gyda chefnogaeth Cynghrair Polisi Bwyd Cymru ac eraill, sydd am i'r cynllun arfaethedig ystyried chwe blaenoriaeth yn benodol. Yn gyntaf, fod bwyd yn hygyrch, a bod Cymru'n dod yn wlad gyntaf i ddileu'r angen am fanciau bwyd, a bod gan bawb yng Nghymru fynediad urddasol at y bwyd sydd ei angen arnynt i fyw bywyd iach. Ac mae hynny'n arwain at yr ail flaenoriaeth wrth gwrs, sef bwyd ar gyfer iechyd y cyhoedd, gan adeiladu ar strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo deietau iach a chytbwys drwy sicrhau bod y llysiau a argymhellir ganddo i'w bwyta yn cael eu cynhyrchu'n gynaliadwy yng Nghymru, sy'n golygu cynnydd mawr mewn garddwriaeth ddomestig a thyfu llysiau yng Nghymru. Nesaf mae'r angen am system fwyd carbon sero-net, sy'n hunanesboniadol, fel y mae'r angen i fabwysiadu egwyddorion mwy amaethecolegol ar draws y system fwyd gyfan, er mwyn atal a gwrthdroi colledion natur, ac wrth gwrs i gynyddu gallu i wrthsefyll newid hinsawdd. Mae sicrhau bwyd môr cynaliadwy yn un arall o'r blaenoriaethau a amlinellir, a phennu terfynau ar gyfer daliadau sy'n galluogi i stociau pysgod gael eu hadfer a'u cynnal uwchben lefelau biomas sy'n darparu'r cynnyrch cynaliadwy mwyaf posibl, ac yn olaf blaenoriaeth i greu swyddi a bywoliaeth gynaliadwy yn y sector bwyd; dylai pawb sy'n ennill eu bywoliaeth o fewn y system fwyd dderbyn neu allu derbyn o leiaf y cyflog byw neu elw teg am eu gwaith, a gwaith sydd hefyd yn rhydd o arferion camfanteisiol wrth gwrs.
Un wers y mae'r pandemig wedi'i dysgu i ni yw na ddylem byth eto gymryd ein gweithwyr iechyd a gofal yn ganiataol, ac ni ddylem ychwaith gymryd y rhai sy'n cynhyrchu ac yn cyflenwi'r bwyd a fwytawn yn ganiataol. Mae COVID-19 wedi tanlinellu gwerth cael sylfaen gynhyrchu sylfaenol frodorol, yn enwedig mewn byd lle mae cadwyni cyflenwi mor gymhleth wrth gwrs, yn gweithredu ar sail mewn union bryd ac eithaf hawdd tarfu arnynt, fel y gwelwyd yn ddiweddar a hyd yn oed cyn diwedd cyfnod pontio Brexit. Mae gwarchod y cadwyni cyflenwi hynny rhag ergydion yn her wirioneddol, ac un ffordd o gyflawni hyn yw drwy fyrhau ein cadwyni cyflenwi, sy'n golygu mwy o brosesu lleol. Ac mae gan fwy o brosesu lleol rôl enfawr i'w chwarae yn helpu i greu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru.
Y realiti, serch hynny, yw bod ystadegau diweddar AHDB yn awgrymu nad oes gan Gymru gapasiti i brosesu hanner y llaeth a gynhyrchwn. Mae'r rhan fwyaf o'r llaeth a gynhyrchir yng Nghymru, un o'r meysydd llaeth mwyaf yn Ewrop, yn cael ei gludo allan o Gymru i'w brosesu. Caiff miliynau o alwyni o laeth hylif ei gludo allan bob blwyddyn, ac mae cannoedd o filoedd o dunelli o gynnyrch llaeth yn cael ei gludo'n ôl i mewn. Wel, faint o filltiroedd bwyd yw hynny, tybed? A chanfu adolygiad o'r sector cig eidion yng Nghymru yn 2014 fod 72 y cant o wartheg Cymru wedi'u lladd y tu allan i Gymru. Caiff 31 y cant o ddefaid Prydain eu magu yng Nghymru, ond dim ond 24 y cant sy'n cael eu lladd yng Nghymru. Felly, mae hyn i gyd yn golli gwerth, colli incwm a swyddi i economi Cymru, heb sôn am y gost enfawr ar ffurf allyriadau carbon a ddaw yn sgil hynny. Mae'n rhaid i hyn newid.
Nawr, yr ateb amlwg i hyn yw cynyddu capasiti prosesu Cymru yn gyffredinol, sy'n golygu nid yn unig atal ond gwrthdroi tueddiadau o ran nifer y lladd-dai bach yng Nghymru, sydd wedi haneru dros y 25 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu mai dim ond tua 18 sy'n dal i fodoli, ac ar gyfer prosesu llaeth, rwy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru wrth gwrs, ac rydym wedi gweld yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf sut rydym wedi colli Arla yn Llandyrnog, Tomlinsons yn Wrecsam—proseswyr llaeth mawr yma yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Felly, byddai gwrthdroi colli'r ddarpariaeth hon yn gam cadarnhaol i'r cymunedau sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, byddai'n dda i les anifeiliaid hefyd wrth gwrs, gan nad ydych yn symud cymaint o anifeiliaid o amgylch y wlad, byddai'n dda ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, ac yn dda i'r economi wledig. Dyna, wrth gwrs, yw'r lens economeg llesiant a grybwyllais yn gynharach—yr olwg fyd-eang newydd y credwn fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fod i'w hymgorffori ym maes polisi cyhoeddus Cymru.
Nawr, bydd fy nghyd-Aelodau'n ymhelaethu ar agweddau eraill y mae angen mynd i'r afael â hwy yn y ddadl hon, megis rôl caffael cyhoeddus, pwysigrwydd prynu bwyd lleol, rôl bwyd yn yr adferiad gwyrdd, tlodi bwyd ac effeithiau bwyd ar iechyd, a byddaf yn mynd i'r afael â gwelliannau a gyflwynwyd gan y pleidiau eraill yn fy sylwadau cloi ar ôl gwrando ar gyfraniadau pobl eraill. Mewn amgylchiadau arferol, wrth gwrs, yr wythnos hon byddai llawer ohonom wedi mynychu ffair aeaf Sioe Frenhinol Cymru, un o'r sioeau stoc gorau yn Ewrop, sy'n denu torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau, siopa Nadolig a chyfle gwych i arddangos y bwyd gorau sydd gennym i'w gynnig o Gymry wrth gwrs.
Ond ceir problemau systemig o fewn y system fwyd ehangach yng Nghymru sy'n galw am sylw ar frys. Ceir gormod o bobl yng Nghymru na allant fforddio bwyta deiet iach. Mae'r system fwyd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, ar iechyd y cyhoedd, ac ar ein lles economaidd, ac mae hyn i gyd yn llesteirio ein gallu i ffynnu fel cenedl. Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno polisi bwyd mwy cydlynol yng Nghymru a hynny ar frys. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau o bob ochr i'r Siambr. Diolch.