Part of the debate – Senedd Cymru ar 2 Rhagfyr 2020.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 7:
cyflwyno siarter bwyd a diod leol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod Cymreig o ffynonellau lleol a helpu i hyrwyddo'r cynllun i ddefnyddwyr;
datblygu strategaeth dwristiaeth i hyrwyddo llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ledled Cymru;
gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor.