Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Diolchaf i Jack Sargeant, Llywydd, am hynna. Mae mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar drawma yng Nghymru yn cael ei ddatblygu yn bennaf drwy waith y ganolfan profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'n gweithio i ymwreiddio egwyddorion ymarfer sy'n seiliedig ar drawma ar draws yr amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru.