Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:57, 8 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, yr holl ffeithiau a ffigurau hynny y dechreuodd arweinydd yr wrthblaid â nhw yw'r ffeithiau a'r ffigurau a roddais i iddo yr wythnos diwethaf pan wrthododd gefnogi'r mesurau a gymerwyd gennym ni o ran lletygarwch; mesurau na allai neb wadu yr wythnos hon, rwy'n credu, eu bod nhw'n iawn ac yn angenrheidiol. Mae angen i ni roi cyfle i'r mesurau hynny wneud gwahaniaeth. Rydym ni angen iddyn nhw gael eu hategu gan gamau y gall pobl eu cymryd yn eu bywydau eu hunain i gynorthwyo cymunedau ledled Cymru i gael y feirws hwn yn ôl—y niferoedd yn gostwng unwaith eto. Nid wyf i'n credu bod hynny'n golygu y byddwn ni'n cymryd camau pellach yr ochr hon i'r Nadolig. Ond yr ochr arall i'r Nadolig, mae'r cyngor yn adroddiad y gell cyngor technegol a gyhoeddwyd ac y cyfeiriwyd ato gan Adam Price yn eglur ynglŷn â hyn hefyd: y bydd cyfnod o lacio dros y Nadolig yn arwain at gynnydd pellach—cynnydd pellach eto, y tu hwnt i'r ffigurau a nodwyd gan yr Aelod yn ei gwestiwn ychwanegol i mi. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i unrhyw Lywodraeth gyfrifol feddwl am y mesurau y gallai fod eu hangen er mwyn diogelu'r gwasanaeth iechyd fel ei fod yn gallu parhau i wneud popeth arall y mae'n rhaid iddo ei wneud ar yr adeg y mae fwyaf dan bwysau mewn unrhyw flwyddyn, ac atal marwolaethau y gellir eu hosgoi.

Edrychaf ymlaen, Llywydd, at gefnogaeth y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru i fesurau a fydd yn angenrheidiol, oherwydd hyd yma, mae'r gefnogaeth honno wedi bod yn drawiadol oherwydd ei habsenoldeb.