Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Wel, Prif Weinidog, wrth gwrs, mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod anodd i lawer iawn, gan gynnwys disgyblion a myfyrwyr. Bydd pob un wedi gweld effaith ar eu dysgu, ond bydd rhai wedi gweld rhywfaint ar eu hiechyd meddwl hefyd, fel yr ydym ni i gyd wedi ei glywed dros y misoedd diwethaf. I rai, wrth gwrs, bydd yn rhywbeth dros dro, gobeithio, ond i eraill gallai sbarduno rhywbeth llawer dyfnach a mwy hirhoedlog. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf i pwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod ysgolion a cholegau yn dysgu am drawma? A faint o'r ysgolion a'r colegau yng Ngorllewin De Cymru sydd wedi gallu cael gwasanaeth llysgennad ACE o'r ganolfan ACE? Diolch.