Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pan wnaethoch chi gyhoeddi'r cyfyngiadau symud ar gyfer y cyfnod atal byr ym mis Hydref, dywedasoch mai dyma oedd ein cyfle gorau i adennill rheolaeth dros y feirws ac osgoi cyfyngiadau symud cenedlaethol llawer hwy a llawer mwy niweidiol. Er hynny, cadarnhawyd ddoe mai Cymru oedd yr unig ran o'r DU lle nad oedd y ffigurau yn gostwng ddiwedd mis Tachwedd. Prif Weinidog, cyn ystyried cyflwyno unrhyw gyfyngiadau pellach, a allwch chi ddweud wrthym ni pa asesiadau sydd wedi eu cynnal o ran cyfyngiadau symud cyfnod atal byr Llywodraeth Cymru, o gofio nad yw'r ffigurau wedi gostwng yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU?