Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Wel, Llywydd, dwi'n cytuno gyda Rhun ap Iorwerth am y problemau sy'n wynebu pobl yn y gorllewin, yn y de ac yn y gogledd hefyd. Mae hynna yn gwaethygu, achos mae yna'r problemau dwi wedi eu hesbonio prynhawn yma. Wrth gwrs, dwi'n fodlon siarad gyda'r Gweinidog i weld os oes yna fwy o fanylion rydym ni'n gallu eu rhoi i'r Aelodau, ac i fod yn glir gyda phobl am y camau mae'r bwrdd iechyd yn y gogledd yn eu cymryd i dreial i ddelio â'r problemau maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd.FootnoteLink