Mynediad at Ddeintyddiaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:09, 8 Rhagfyr 2020

Mae'n rhaid i fi ddweud dwi'n bryderus bod yna ddiffyg cynllunio gwasanaeth deintyddol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dwi wir yn bryderus am sefyllfa deintyddiaeth yn fy etholaeth i. Mae cau deintyddfeydd preifat yn ddiweddar ar y tir mawr wedi gwaethygu eto'r anhawster mae pobl yn ei gael i gofrestru efo ac i ddarganfod deintydd sy'n gwneud gwaith NHS. Mae'r camau dwi wedi eu cymryd efo deintydd yn Ynys Môn i gynyddu capasiti yn wynebu rhwystr ar ôl rhwystr, a ninnau wedi llwyddo i ddenu dau ddeintydd i mewn, ond yn methu â chael y bwrdd i gytuno i gynyddu'r contract. Ar ben hynny, mae gen i bryder mawr am beth sy'n digwydd i wasanaethau deintyddol arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, efo colli gwasanaethau a methiant i recriwtio yn gwneud i fi feddwl bod yna gynllun i israddio gwasanaethau. A gawn ni adolygiad llawn o wasanaethau deintyddol yn fy etholaeth i, ac yn wir yn y gogledd-orllewin yn ehangach?