Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Llywydd, diolch i David Rees am y pwyntiau pwysig yna. Fe wnaethom ni drafod y materion hyn yn y cyfarfod diwethaf o gyngor y bartneriaeth gymdeithasol gyda chynrychiolwyr cyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal â'r undebau llafur a oedd yn bresennol. Rwy'n falch iawn bod yr ymgyrch yr ydym ni wedi ei lansio ac yn ei rhedeg ar hyn o bryd yn un a gefnogir gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, yn ogystal â TUC Cymru. Mae yno i wneud yn siŵr bod cyflogwyr, yn ogystal â gweithwyr, yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau ac yn eu cyflawni.
Mae'r rheswm dros ymestyn taliadau hunanynysu i rieni a gofalwyr plant wedi cael sylw yn y fan yma ar lawr y Senedd; rwy'n credu bod Helen Mary Jones wedi ei godi gyda mi yr wythnos diwethaf. Ond, hefyd, y mwyaf yw nifer yr achosion o'r coronafeirws, y mwyaf o bobl y gofynnir iddyn nhw hunanynysu. Yn Heddlu De Cymru yn unig, gofynnwyd i 350 o staff a swyddogion yr heddlu hunanynysu yn ystod y saith diwrnod diwethaf. Dyna effaith y coronafeirws ar ein cymunedau ac ar ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Dyna pam mae'n gwbl hanfodol ac yn ddiamwys bod yn rhaid i ni gymryd y camau yr ydym ni'n eu cymryd. Pan mae pobl yn tanseilio hyn, yn gofyn am lacio cyfyngiadau ac ymddwyn fel pe na byddai cyfyngiadau yn angenrheidiol i iechyd y cyhoedd, mae'r ffigur hwn yn dweud, oni bai ein bod yn dod â hyn o dan reolaeth ac yn cydweithio i gyflawni hynny, bod yr effaith yn gwbl real, nid yn unig yn y gwasanaeth iechyd ond mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd.
Fe ofynnodd David Rees sawl gwaith y mae'n bosibl hawlio'r taliad. Rwy'n credu ein bod ni'n caniatáu hynny ar dri gwahanol achlysur ar hyn o bryd. Os bu angen i leoliad ofyn i bobl hunanynysu dair gwaith yn olynol, yna credwn ei bod yn iawn i oedi a chanfod beth sy'n digwydd yn y lleoliad hwnnw, oherwydd, fel y dywedodd David Rees, weithiau mae angen i ni unioni achos y broblem yn y gweithle, yn hytrach na dim ond ymdrin â'r canlyniadau bob tro.