1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Rhagfyr 2020.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi teuluoedd y dywedir wrthynt am hunanynysu? OQ56022
Yn ogystal â'r cymorth presennol i deuluoedd, rydym ni wedi cyflwyno cynllun cymorth hunanynysu, sy'n gwneud taliadau o £500 i bobl sydd mewn perygl o galedi ariannol oherwydd eu bod nhw'n hunanynysu. Mae'r cynllun hwn bellach yn cael ei ymestyn i gynnwys rhieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddyn nhw hunanynysu.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna ac am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa cymorth hunanynysu i rieni? Mae hwnnw yn amlwg yn un o'r pryderon a godwyd gyda mi yn fy etholaeth. Gofynnwyd i lawer o blant hunanynysu yn eu hysgolion, ac mae rhieni sengl yn arbennig yn wynebu cyfnod anodd o ran gallu gwneud hynny. A yw'n gallu cadarnhau i mi y bydd y cyllid hwnnw yn gweithio ar fwy nag un achlysur, oherwydd mae llawer o rieni—mae fy wyres i fy hun wedi cael ei hanfon adref fwy nag unwaith o'r ysgol gyda chyfarwyddyd i hunanynysu, felly mae'n bwysig eu bod nhw'n ymwybodol o hynny?
A all ef hefyd weithio gyda'r ymgyrch sy'n cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru, gyda Chyngres yr Undebau Llafur, i wneud yn siŵr bod cyflogeion yn gwybod beth yw eu hawliau a'u cyfrifoldebau, ac yn ehangu hynny a gweithio gyda'u cyflogwyr i wybod beth yw eu cyfrifoldebau nhw? Felly, mewn sefyllfaoedd lle mae rhieni'n gorfod cymryd amser i ffwrdd, efallai ar fwy nag un achlysur, bod cyflogwyr yn ymddwyn mewn modd cyfrifol a thosturiol i sicrhau bod gan y rhieni hynny yr hawl a'u bod yn cael eu hatgoffa y cânt ddychwelyd i'r gwaith ac nad yw eu gwaith mewn perygl? A allan nhw hefyd sicrhau, os bydd cyflogwyr yn penderfynu gofyn i rywun aros gartref oherwydd y coronafeirws, eu bod nhw hefyd yn ymddwyn yn gyfrifol i sicrhau bod yr unigolion hynny yn cael eu cynorthwyo'n ariannol gan y cyflogwr?
Llywydd, diolch i David Rees am y pwyntiau pwysig yna. Fe wnaethom ni drafod y materion hyn yn y cyfarfod diwethaf o gyngor y bartneriaeth gymdeithasol gyda chynrychiolwyr cyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn ogystal â'r undebau llafur a oedd yn bresennol. Rwy'n falch iawn bod yr ymgyrch yr ydym ni wedi ei lansio ac yn ei rhedeg ar hyn o bryd yn un a gefnogir gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, yn ogystal â TUC Cymru. Mae yno i wneud yn siŵr bod cyflogwyr, yn ogystal â gweithwyr, yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau ac yn eu cyflawni.
Mae'r rheswm dros ymestyn taliadau hunanynysu i rieni a gofalwyr plant wedi cael sylw yn y fan yma ar lawr y Senedd; rwy'n credu bod Helen Mary Jones wedi ei godi gyda mi yr wythnos diwethaf. Ond, hefyd, y mwyaf yw nifer yr achosion o'r coronafeirws, y mwyaf o bobl y gofynnir iddyn nhw hunanynysu. Yn Heddlu De Cymru yn unig, gofynnwyd i 350 o staff a swyddogion yr heddlu hunanynysu yn ystod y saith diwrnod diwethaf. Dyna effaith y coronafeirws ar ein cymunedau ac ar ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Dyna pam mae'n gwbl hanfodol ac yn ddiamwys bod yn rhaid i ni gymryd y camau yr ydym ni'n eu cymryd. Pan mae pobl yn tanseilio hyn, yn gofyn am lacio cyfyngiadau ac ymddwyn fel pe na byddai cyfyngiadau yn angenrheidiol i iechyd y cyhoedd, mae'r ffigur hwn yn dweud, oni bai ein bod yn dod â hyn o dan reolaeth ac yn cydweithio i gyflawni hynny, bod yr effaith yn gwbl real, nid yn unig yn y gwasanaeth iechyd ond mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd.
Fe ofynnodd David Rees sawl gwaith y mae'n bosibl hawlio'r taliad. Rwy'n credu ein bod ni'n caniatáu hynny ar dri gwahanol achlysur ar hyn o bryd. Os bu angen i leoliad ofyn i bobl hunanynysu dair gwaith yn olynol, yna credwn ei bod yn iawn i oedi a chanfod beth sy'n digwydd yn y lleoliad hwnnw, oherwydd, fel y dywedodd David Rees, weithiau mae angen i ni unioni achos y broblem yn y gweithle, yn hytrach na dim ond ymdrin â'r canlyniadau bob tro.