3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns — Y Camau Nesaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:50, 8 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Fe gyhoeddwyd adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ar 26 Tachwedd, gan gwblhau ei adolygiad manwl ac annibynnol o'r ffyrdd cynaliadwy o fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Fe hoffwn i roi ar gofnod fy niolch i Arglwydd Burns a'i dîm o gomisiynwyr am baratoi darn o waith rhagorol ar sail tystiolaeth.

I'r bobl leol y bu'n rhaid iddyn nhw ddioddef effaith andwyol y tagfeydd, ac i'r busnesau a'r unigolion sydd angen rhwydwaith trafnidiaeth mwy dibynadwy a chadarn, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn rhoi cynllun cydlynol a realistig i'r coridor hanfodol hwn yng Nghymru. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i roi ystyriaeth i'r adroddiad. I mi, y canfyddiad mwyaf trawiadol oedd ei ymchwiliad i'r egwyddorion cyntaf ar gyfer y defnydd a wneir o'r ffordd hon yn benodol. Mae'r rhan fwyaf o deithiau arni rhwng 10 a 50 milltir o bellter, yn cychwyn o Gasnewydd, Caerdydd, a Bryste neu'n diweddu yn un o'r lleoedd hynny. Felly, mae'r dystiolaeth yn dangos yn eglur mai her ranbarthol yw hon sy'n gofyn am ymateb ledled y rhanbarth. Mae cyfran uchel o'r teithiau yn cael eu gwneud gydag un unigolyn yn y car, ac mae'r tagfeydd ar eu mwyaf difrifol yn ystod oriau brig y bore a chyda'r nos. Mae'r dystiolaeth yn dangos mai mater i gymudwyr yw hwn, nid un a achosir gan deithiau lleol o gwmpas Casnewydd. Mae'r math o deithiau sy'n llenwi'r ffordd hon ac sy'n achosi tagfeydd yn rhai y gellid eu gwneud yn rhwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus pe bai hynny'n gystadleuol o ran y gost, amser y daith a chyfleustra. O ystyried daearyddiaeth a thopograffeg yr ardal, mae'n hanfodol bod gan y coridor pwysig hwn i Gymru system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol o ansawdd uchel sy'n rhoi gwasanaeth da ac yn cynnig dewisiadau gwirioneddol o ansawdd uchel i bobl ar draws yr holl ddulliau a fydd yn ysgafnu'r baich sydd ar y ffordd.

Rwyf i o'r farn fod ein strategaeth drafnidiaeth newydd ni i Gymru, 'Llwybr Newydd', yn ategu'r argymhellion sydd yn adroddiad Burns. Gyda'i gilydd, rwy'n credu y gallan nhw ail-lunio ein dull ni o ystyried sut y gall pobl deithio o gwmpas y de-ddwyrain ac, yn wir, y tu hwnt i'r fan honno. Mae'r strategaeth drafnidiaeth yn dadlau'n gryf o blaid newid. Mae argymhellion Burns yn lasbrint ar gyfer sut y gellir cyflawni'r newid hwnnw yn y de-ddwyrain, gan adeiladu ar y gwaith metro sylweddol sy'n mynd rhagddo eisoes. Mae Arglwydd Burns yn galw am wella prif lein de Cymru ac am chwe gorsaf newydd arni hefyd. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r seilwaith hwn, wrth gwrs, ac fe fydd angen iddyn nhw fod â rhan yn y drafodaeth y mae'n rhaid inni ei chael ynglŷn â gwireddu'r cynllun hwn. Ar 23 Tachwedd, fe gyhoeddais i fy natganiad ar adolygiad cysylltedd yr undeb, ac mae fy swyddogion i'n paratoi cyflwyniad sylweddol ar hyn o bryd i waith Syr Peter Hendy. Rwy'n credu y bydd hwn yn gyfrwng i Lywodraeth y DU ddarparu ymrwymiad cynnar i gyflawni argymhellion Burns mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli.

Mae argymhellion Burns yn nodi rhesymau cadarn pam mae angen i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y rhanbarth hwn gael ei godi i fod ar lefel debyg i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bu Cymru ar ei hôl hi'n llawer rhy hir wrth aros am fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn seilwaith rheilffyrdd, ac mae hwn yn gyfle cadarnhaol i Lywodraeth y DU wneud cyfiawnder am y tanfuddsoddiad a fu. Y tanfuddsoddiad hwnnw mewn gwirionedd sydd wedi achosi'r problemau a welwn ni yng Nghasnewydd nawr, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw i unioni'r cam hwnnw a chyflawni gweledigaeth Burns.

Mae Arglwydd Burns yn argymell gwella'r seilwaith bysiau a theithio llesol yn sylweddol yng Nghasnewydd a'r cyffiniau ac, yn drawiadol iawn yn fy marn i, mae dull yr adroddiad hwn o dynnu sylw at yr anghyfiawnder cymdeithasol sydd yng Nghasnewydd pan fo cyfran uchel iawn o deithiau mewn car preifat, ac eto yn y fan honno y mae rhai o'r cyfraddau isaf sydd i'w cael yn unman yn y wlad o ran bod yn berchen ar gar. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru yn nodi'r anghenion strategol, mae'n llawer gwell penderfynu ar y manylion yn lleol, wrth gwrs. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd i lywio'r ffordd ymlaen gyda'n gilydd ar gyfer mesurau teithio ar fysiau a theithio llesol yn y ddinas, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Rydym wedi rhoi camau tymor byr ar waith i helpu i gefnogi unigolion, cymunedau a busnesau i ymdrin ag effeithiau uniongyrchol y coronafeirws. Er hynny, mae Arglwydd Burns, a hynny'n briodol, yn cyflwyno glasbrint ar gyfer y tymor hwy, sy'n ystyried y rhagolygon twf sylweddol sydd i'r rhanbarth hwn. Ac mae'r twf hwnnw, ynghyd â'n hamcanion ni i annog newid moddol, yn cyfiawnhau creu system teithio torfol sy'n gynaliadwy ledled y rhanbarth.

Fe fyddaf yn trafod yr argymhellion sy'n ymwneud â chynllunio defnydd tir gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i weld sut y gallwn ni gydweithio i'w cefnogi nhw. Mae integreiddio rhwng trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir yn hanfodol. Mae'n bwysig bod datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu yn y lleoliadau priodol, sydd â chysylltedd eang a hygyrchedd da o ran trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y rhan hon o Gymru lle mae datblygiad radical clasurol yn fwy heriol.

Mae'r argymhellion yn ymestyn ar draws pob agwedd ar bolisi a darpariaeth trafnidiaeth. Fe fydd angen cydweithio a chydweithrediad agos rhwng partneriaid, ac mae gwaith ar y gweill i sefydlu uned gyflawni, a fydd yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Casnewydd a Thrafnidiaeth Cymru i helpu i wneud cynnydd o ran argymhellion yr adroddiad, ac rwy'n disgwyl i'r uned honno gyfarfod am y tro cyntaf yn ystod y mis hwn. Fe fydd yr uned yn gyfrifol i ddechrau am adolygu pob un o 72 o argymhellion comisiwn Burns a phenderfynu pa gamau nesaf y bydd angen eu cymryd. Ar gyfer argymhellion newydd, fe fydd yr uned ddatblygu yn fy nghynghori i a'n partneriaid ni mewn awdurdodau lleol a Network Rail ynglŷn â'r ffordd orau o weithio i ddatblygu a llywio penderfyniadau pellach.

Mewn rhai ardaloedd, rydym wedi dechrau eisoes. Mae'r gorsafoedd rheilffordd newydd a argymhellir yn Llaneirwg, ar gyrion Caerdydd, ac yn Llanwern eisoes ar y camau cynllunio. Rydym wedi cymryd camau hefyd i ddod â'r rhwydwaith rheilffyrdd sydd gennym ni i Gymru a'r gororau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus. Fe gafodd y rhaglen i ddiwygio bysiau ei sefydlu mewn ymateb i effaith COVID-19, ac rydym yn datblygu cynlluniau tymor hwy ar gyfer diwygio'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu cynllunio, eu hariannu a'u darparu. Rydym wedi rhoi'r buddsoddiad mwyaf a fu erioed i gyllid teithio llesol. Mae hynny'n creu llwybrau teithio diogel a gwell cysylltiadau yn ein trefi a'n dinasoedd ni, sy'n rhyngweithio â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, gan leihau'r ddibyniaeth ar geir. Mae mwy i'w wneud eto yng Nghasnewydd, nid oes unrhyw amheuaeth o hynny, ac, yn wir, ledled Cymru hefyd.

I gloi, rwyf i'n croesawu canfyddiadau adroddiad Burns yn fawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ein gweledigaeth graidd ni ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru: system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy sydd o fudd i bobl a chymunedau, o fudd i'r amgylchedd, o fudd i'n heconomi ac o fudd i fangreoedd. Rwyf i o'r farn y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn ein helpu ni i gyflawni'r uchelgais hwnnw. Ond ni ddaw hynny, wrth gwrs, oni bai i'r adroddiad hwn fod yn rhywbeth mwy na dogfen ddisglair sy'n cael ei gadael ar y silff. Mae'n rhaid i'r adroddiad arwain at newid gwirioneddol a deinamig, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU ymysg eraill i helpu i wireddu hynny.