3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns — Y Camau Nesaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:58, 8 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma ac a gaf innau hefyd, fel y gwnaethoch chi, ddiolch i Arglwydd Burns a'i gydweithwyr ef am gynhyrchu'r adroddiad hwn a gwneud argymhellion yn y fath fodd? Fe hoffwn i ddiolch i Arglwydd Burns hefyd am iddo ef ei hunan roi briff i mi yn ddiweddar. Rwy'n croesawu'r argymhellion yn gyffredinol. Rwyf i o'r farn ei fod yn ddarn o waith gloyw, ac argymhellion da ynddo. Yn amlwg, mae angen rhoi ystyriaeth bellach i rai o'r argymhellion hynny, ond fe geir rhai argymhellion ynddo yr wyf i'n sicr yn teimlo y gallaf eu cefnogi nhw ar unwaith, o ran, er enghraifft, cydlynu amserlenni bysiau a rheilffyrdd mewn cyfnewidfeydd allweddol. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn argymhelliad synhwyrol iawn.

Gweinidog, fe ddaeth eich datganiad chi i ben drwy sôn am beidio â chaniatáu i hon fod yn ddogfen ddisglair sy'n cael ei gadael ar y silff, i bob pwrpas. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael rhywfaint o'r cyd-destun ynghylch y cwestiynau'r prynhawn yma. Fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru ddogfen ddisglair ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ac fe adawyd honno ar y silff am gyfnod maith iawn, yn hel llwch, ac yna, wrth gwrs, fe daflodd y Prif Weinidog y ddogfen ddisglair honno i'r bin, ac roedd gennym ni Lywodraeth yng Nghymru a oedd wedi cyflwyno ei chynigion ei hun ar gyfer ffordd liniaru'r M4, yr edrychwyd arnyn nhw'n annibynnol, ac ar ôl gwario miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr fe ddilëwyd y cynigion hynny, a dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Nawr, o'm safbwynt i, rwy'n credu bod diffygion ffordd liniaru bresennol yr M4 o amgylch Casnewydd yn amlwg i bawb eu gweld. Fe gynlluniwyd y ffordd gyntaf yn y 1950au, nid fel traffordd ond fel ffordd osgoi i Gasnewydd, ac mae'n ddiffygiol iawn yn ôl safonau traffyrdd modern, gyda lonydd yn lleihau, lleiniau caled bob hyn a hyn, aliniad anfoddhaol, a chyffyrdd mynych. Dyna fy marn bendant i. Rwy'n gwybod mai honno yw eich barn chithau hefyd oherwydd rwyf newydd ddefnyddio eich geiriau chi, fel y gwnaethoch chi ynghynt.

Nawr, yn y cyd-destun hwnnw, tybed a wnewch chi, Gweinidog, efallai roi ychydig mwy inni nag a wnaethoch yn eich datganiad o ran eich barn gychwynnol am yr argymhellion. Ni wnaethoch ddweud llawer iawn am hynny yn y datganiad ei hun. Ond, er enghraifft, pa feysydd ydych chi'n barnu y gallwch chi gytuno arnyn nhw? Rwyf wedi amlinellu rhai argymhellion yr wyf i o'r farn y gallwn ni eu cefnogi. Pa argymhellion y gallwch chi eu cefnogi nhw'n llwyr, ac a oes yna unrhyw argymhellion yr ydych yn cael mwy o anhawster gyda nhw? Nid wyf yn gwybod a allwch chi roi ychydig mwy i ni'r prynhawn yma o ran y canfyddiadau cychwynnol.

Rydych wedi siarad eto am yr uned ddatblygu. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am sut y bydd hynny'n gweithio yn ymarferol. Hefyd, o ran yr adroddiad, gan roi'r argymhellion o'r neilltu efallai ac ystyried y casgliadau eu hunain, o fewn yr adroddiad, a pha wybodaeth newydd a gasglwyd o'r adroddiad hwnnw na chafodd ei chyflwyno efallai drwy gynigion gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ac yn ystod y cam hwnnw o ymchwiliad cyhoeddus? Pa bethau newydd sydd wedi digwydd o ran y casgliadau hynny? Er enghraifft, rwy'n gwybod ichi sôn am y man cychwyn o 10 i 15 milltir sy'n diweddu yng Nghasnewydd, Caerdydd neu Fryste. Pa eitemau newydd eraill a gasglwyd o'r adroddiad, ac nid o gynigion gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4? Rydych chi eich hun wedi dweud bod y cyfnod arfarnu 60 mlynedd yn dod â mwy na £2 o fuddiant am bob punt a gaiff ei gwario ar gynllun ffordd liniaru'r M4. Felly, a ydych chi'n rhagweld yr un gyfradd o elw yn dod o fuddsoddiad o'r argymhellion? Ac os nad ydych chi'n gwybod yr ateb i hynny, a yw'n rhywbeth y bydd yr uned ddatblygu yn ei ystyried?

Nawr, rwyf wedi dweud fy mod i'n croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad yn gyffredinol. Mae yna un argymhelliad sy'n peri pryder imi, ac nid wyf yn teimlo y gallaf ei gefnogi. Mae'n ymwneud â'r ardoll ar barcio yn y gweithle. I mi, y ffordd i newid patrymau teithio pobl yw sicrhau bod gennym drafnidiaeth gyhoeddus hwylus am brisiau rhesymol, a'n bod ni'n gwneud hynny yn hytrach na threthu pobl. Felly, gyda'r pandemig, wrth gwrs, yn cael cymaint o effaith ar yr economi, tybed, Gweinidog, a ydych chi o'r farn ei bod yn briodol inni godi trethi yn y ffordd y mae'r adroddiad yn ei nodi? Ac os na allwch chi warantu bod—. Neu, yn hytrach, a allwch chi warantu na fydd yna ardoll ar barcio yn y gweithle yn cael ei gweithredu dan eich gwyliadwriaeth chi, Gweinidog? Diolch.