3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns — Y Camau Nesaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:03, 8 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch yn fawr iawn i Russell George nid yn unig am ei gyfraniad heddiw, ond am ei gyfraniadau adeiladol yn ystod y broses dan arweiniad Arglwydd Burns? Ac yn wir, fe hoffwn i ddiolch i bob Aelod o'r Senedd am fod mor adeiladol, parod a brwdfrydig o ran y drafodaeth ag Arglwydd Burns a'r comisiwn, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi teimlo eu bod nhw'n hyddysg yn y mater o ganlyniad i barodrwydd Arglwydd Burns i ymgysylltu â nhw'n uniongyrchol. Rwy'n falch iawn bod Russell George yn croesawu'r adroddiad, ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n credu fod yna laweroedd o argymhellion y mae ef a minnau'n cytuno arnyn nhw, yn enwedig o ran cydgysylltu, gwell cydgysylltu ac integreiddio gwasanaethau a thocynnau. Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n creu system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n ddymunol, sy'n hygyrch ac yn cynnig dewis arall sy'n well na'r car, ac mae integreiddio gwasanaethau yn allweddol wrth wneud yr union beth hwnnw.

Un o atebion ddoe oedd y cynnig am ffordd liniaru i'r M4. Ateb oedd hwn yn yr oes cyn i'r argyfwng hinsawdd gael ei ddatgan gan y Senedd. Mae'r dyfodol bellach yn golygu trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel a theithio llesol gwell, llai o ddibyniaeth ar ddefnyddio ceir, a chymunedau mwy bywiog sy'n cael eu gwasanaethu gan ganolfannau gweithio o bell ac economi sylfaenol gryfach o ganlyniad i gadw cyfleoedd ar gyfer ffyniant o fewn cymunedau.

O ran fy marn gychwynnol i, mae'n rhaid imi ddweud y bydd yr uned gyflawni, yn gyntaf oll, yn asesu'r argymhellion i gyd, ac fe fydd yr uned gyflawni honno, os hoffech chi, yn gwbl unplyg fel roedd Arglwydd Burns yn awyddus i'w hyrwyddo, sy'n cynnwys yr holl asiantau cyflawni a'r cyrff gwneud penderfyniadau allweddol. Ond fe fydd yr uned gyflawni yn cynnal asesiad o'r argymhellion i gyd. Serch hynny, o ran fy meddyliau cyntaf i ynglŷn â rhai o'r argymhellion allweddol, fe fyddwn i'n gefnogol iawn i wella seilwaith y rheilffyrdd a theithio llesol, a'r defnydd o wasanaethau bysiau hefyd, drwy gyflwyno mwy o goridorau pwrpasol. Yn benodol, rwyf i o'r farn fod yr angen i uwchraddio prif lein de Cymru i gynnig cyfle am fwy o wasanaethau cymudo yn rhywbeth y byddai pawb, bron iawn, yn y de-ddwyrain yn ei groesawu.

Yr hyn a nododd yr adroddiad oedd bod tagfeydd ar yr M4 yn broblem i gymudwyr, a'r datrysiad gorau i gymudwyr yw darparu trafnidiaeth gyhoeddus fel sydd gan y gwledydd gorllewinol mwyaf datblygedig eisoes, a hynny drwy systemau metro datblygedig. Nawr, fe fydd ein gweledigaeth ni o'r metro sy'n werth £700 miliwn a mwy yn cyflawni hynny, ond mae  hwnnw'n seiliedig ar deithio o'r gogledd i'r de i raddau helaeth. Yr hyn a ychwanegwyd gan Arglwydd Burns yw gweledigaeth ar gyfer teithio o'r dwyrain i'r gorllewin hefyd, gan gyfuno pob math o symudiad ar draws y de-ddwyrain. Fe fyddwn i'n gefnogol iawn i ychwanegu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y metro at y weledigaeth arall ar gyfer teithio llorweddol rhwng y dwyrain a'r gorllewin rhwng ein dinasoedd allweddol ni ac, yn wir, Bryste.

O ran rhai o'r canfyddiadau allweddol a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad, fe gefais i fy nharo'n arbennig—ac roedd hynny'n mynd yn ôl at egwyddorion cyntaf gwaith Arglwydd Burns—gan ganfyddiadau sy'n ymwneud â'r hyn sy'n brif achos y tagfeydd yn ystod oriau brig, sef y bobl sy'n teithio rhwng 10 a 50 milltir. Cyn cyhoeddi'r adroddiad hwn, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi clywed nifer o bobl yn rhagdybio mai achos y broblem yng Nghasnewydd a'r cyffiniau oedd teithiau lleol a phobl leol. Yr hyn sy'n amlwg nawr yw nad yw hynny'n hollol wir. Teithiau pellach yw'r rhai sy'n achosi tagfeydd.

Wrth gwrs, fe fydd gwerth am arian yn ystyriaeth allweddol. Dim ond heddiw fe gefais i e-bost gan y Gweinidog Cyllid yn fy atgoffa i fod yn rhaid i werth am arian fod yn rhan annatod o'n proses ni o wneud penderfyniadau. Er hynny, fe hoffwn i ychwanegu hefyd, os ydym eisiau ysbrydoli newid moddol a chynnig cyfleoedd i bobl wneud defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, yna mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn awr ac i'r dyfodol, o ran y seilwaith sydd ei angen, ond hefyd o ran y cymhorthdal sydd ei angen er mwyn iddo fod yn ddewis amgen cost-effeithiol i ddefnyddio ceir preifat.

Ac yna, yn olaf, at y pwynt pwysig a gododd Russell George, sef y cynigion ar gyfer yr ardoll ar barcio yn y gweithle a gaiff eu gweinyddu a'u pennu gan awdurdodau lleol. Rwy'n credu mai'r pwynt hollbwysig i'w wneud yma yw bod Arglwydd Burns dim ond yn awgrymu'r ardoll hon ar y sail bod y gwelliannau hynny i ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus amgen eisoes wedi eu cyflwyno. Felly, rwy'n credu ei fod yn awgrym defnyddiol iawn, ond mae'n amlwg ei fod yn seiliedig ar yr angen i weithredu'r argymhellion eraill i ddechrau o ran darparu dewisiadau amgen deniadol a chost-effeithiol yn hytrach na defnyddio ceir preifat.