Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Rwy'n siomedig ond nid wyf wedi fy synnu gan y cyfraniad yna. Credaf fod yr honiad y dylai'r Rhondda elwa'n fwy nag ardaloedd tasglu'r Cymoedd yn mynd at wraidd problem y cyfraniad. Mae'n chwilio'n gyson am gŵyn i gydio ynddi a manteisio arni, yn hytrach nag edrych mewn ysbryd o gydweithredu i weld sut y gall yr holl awdurdodau gydweithio.
Soniodd Leanne Wood eto am enghraifft cwmni cydweithredol Burberry Treorci, ac rwyf wedi cyfarfod â nhw ac wedi esbonio iddi'n faith y broses yr aethom drwyddi, gan weithio gyda'r cwmni cydweithredol hwnnw, a gweithio gyda'r ymddiriedolwyr, i gynnig cymorth iddyn nhw i ennill contractau ar eu pen eu hunain. Nawr, mae cyfrifoldeb ar y ddwy blaid i gydweithredu yma, a gwn ei bod yn siomedig na ddaeth y fenter gydweithredol a sefydlwyd gennym ni yng Nglynebwy i'r Rhondda, ond, fel y dywedais, mae angen i'r prosiectau hyn fynd i wahanol leoedd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac roedd y dadansoddiad o dystiolaeth a wnaethom ni ar gyfer meini prawf y prosiect hwnnw a chael lleoliad a oedd yn addas, yn agos at drafnidiaeth gyhoeddus, yn agos at bobl a fu allan o waith ers amser maith, yn ffafrio Glynebwy yn yr achos penodol hwn.
Ymddengys nad yw Leanne Wood yn gallu symud y tu hwnt i hynny, er ein bod, fel y dywedais, yn parhau i fod yn agored i weithio gyda'r cwmni cydweithredol. Rydym ni wedi estyn allan dro ar ôl tro at y cwmni cydweithredol. Sefydlwyd y gronfa her yr economi sylfaenol gennym ni, y gallen nhw fod wedi gwneud cais iddi. Felly, nid wyf yn siŵr beth arall y mae'n disgwyl i ni ei wneud, heblaw rhoi contract mawr iddyn nhw, na allwn ni ei wneud yn sicr. Ond rydym yn parhau i fod yn fodlon gweithio gyda nhw, oherwydd eu hamcanion nhw yw fy amcanion i. Eu hamcanion nhw yw amcanion yr economi sylfaenol, busnes cymdeithasol a mentrau cymdeithasol, yr ydym ni yn eu hyrwyddo. Ond mae'n drueni—mae hi'n dal i fynd ymlaen am yr enghraifft hon a minnau wedi esbonio cyfyngiadau'r dull gweithredu hwnnw iddi, ond, unwaith eto, dywedaf yn ddiffuant ein bod yn parhau i fod yn agored i weithio gyda nhw i weld a allwn ni ganfod ffordd o gael y maen i'r wal.
Gofynnodd eto sut y bu i'r Rhondda elwa, ac roedd fy araith yn amlinellu cyfres o fentrau yr oedd y Rhondda wedi elwa arnyn nhw, ochr yn ochr â rhannau eraill o'r Cymoedd. Unwaith eto, mae'r prosiect cartrefi gwag, sydd yn benodol yn y Rhondda, wedi elwa'n sylweddol ar gyllideb tasglu'r Cymoedd, ac mae hynny'n helpu pob rhan o'r Cymoedd.
Yn benodol ynglŷn â'r cynlluniau arbrofol ar gyfer mannau cydweithio, rydym ni yn rhoi £300,000 i gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer datblygu llys Llwynypia ac ar gyfer datblygu man cydweithio yng Nghymdeithas Tai Rhondda. Mae llawer i'w ganmol ynghylch y prosiect i ailddatblygu'r llys, sef datblygu'r hen lys ynadon gynt i greu strwythur amlbwrpas, a fyddai â chaffi, campfa'n llawn offer, yn ogystal â man i bobl weithio fel y gallan nhw fod o fudd i ganol eu tref leol, yn hytrach na mynd ymhellach i ffwrdd.