Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

QNR – Senedd Cymru ar 8 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyllid sydd ar gael i ddarparu metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae £482,000 arall wedi ei ddyfarnu i Gyngor Abertawe yn 2020-21 ar gyfer y prosiect hwn, sef y swm llawn y gwnaed cais amdano.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch cytundeb ar y berthynas rhwng yr UE a'r DU yn y dyfodol?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

While I and Cabinet colleagues have discussed the negotiations with many people, the UK Government has excluded the devolved Governments from all decisions on this matter, despite the terms of reference of the JMC(EN). The outcome of the negotiations will be of the UK Government’s making.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoli gosodiadau gwyliau tymor byr?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae rheoli gosodiadau gwyliau byr yn fater i'r perchnogion sy'n eu rhedeg fel busnesau preifat. Rhaid i'r rheoli hwnnw gael ei wneud o fewn y gofynion rheoliadol a nodir gan y Senedd a gan awdurdodau lleol.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer rhoi'r rhaglen frechu COVID-19 ar waith yng Nghymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

Welsh Government and Public Health Wales are working together on public communications. This includes social media and online information on vaccine and the roll-out in Wales. Initial messaging has been to provide information on safety and eligibility, addressing any concerns and misconceptions.