Part of the debate – Senedd Cymru am 12:40 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil marchnad fewnol heddiw. Yn y bôn, mae'r Bil hwn yn ceisio chwalu democratiaeth Gymreig, gan danseilio'r setliad datganoli yn llwyr drwy gipio pwerau yn ôl mewn meysydd datganoledig a chyfyngu'n ddifrifol ar allu'r Senedd hon i greu unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn y dyfodol nad yw'n cyd-fynd â chynlluniau San Steffan. O ganlyniad i bleidlais refferendwm Brexit a'r ymgyrchu croch ac ymrannol a grëwyd yn sgil hynny, a'r ymbil cyson i barchu canlyniad y refferendwm hwnnw a'r ffaith bod Cymru wedi pleidleisio o blaid 'gadael', rydym wedi gweld pwerau yn cael eu lleihau’n raddol ers 2016. Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i barchu canlyniadau refferenda 1997 a 2011, pan bleidleisiodd pobl Cymru o blaid pwerau yma yng Nghymru yn y lle cyntaf ac yn ysgubol o blaid mwy o bwerau yn 2011.
Ond nid ydym yn disgwyl unrhyw beth yn wahanol gan y Ceidwadwyr. Fe wnaethom ddechrau colli pwerau o dan Ddeddf Cymru 2017. Dadleuodd Plaid Cymru'n gryf, a chawsant ein gwawdio gan Lafur a’r Ceidwadwyr bryd hynny. Ar ymadael â’r UE, gwrthwynebodd y Blaid Lafur gynllun Plaid Cymru a’r diweddar Steffan Lewis am Fil parhad i ddiogelu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd wrth inni ymadael â’r UE, a dibynasant ar gytundebau rhynglywodraethol â Llywodraeth Geidwadol y DU yn lle hynny. Wel, prin y gellid galw hynny'n llwyddiant: bellach, mae tri o bwyllgorau’r Senedd wedi dod i'r casgliad fod y Bil marchnad fewnol yn dinistrio’r setliad datganoli yn llwyr. Naw wfft i ddiogelu cytundebau rhynglywodraethol, naw wfft i fframweithiau cyffredin yn seiliedig ar gydlywodraethu yn lle'r Bil parhad. Nid economaidd yn unig yw'r Bil marchnad fewnol, mae'n drychinebus o gyfansoddiadol. Ni fu unrhyw broblem gyda masnachu rhwng Cymru a Lloegr yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae hyd yn oed Tŷ’r Arglwyddi wedi condemnio'r Bil marchnad fewnol yn llwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei gwthio i'r cyrion a'i hanwybyddu dro ar ôl tro yn ystod y negodiadau gadael yr UE dros y pedair blynedd diwethaf. Gwrthodwyd cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil ymadael â’r UE gan yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ond aeth y Torïaid yn eu blaenau beth bynnag. Nawr, yng nghanol pandemig COVID, gyda thrafodaethau Brexit yn barod i’w pobi, fel y cytundeb hawsaf yn y byd—mae hynny'n mynd yn dda—fel pe na bai hyn oll yn ddigon, mae'r Bil marchnad fewnol yn cael ei orfodi arnom. Bil sy’n torri cyfraith ryngwladol, gan arwain at gynddaredd yn Iwerddon a mannau eraill. Ein cyllid Ewropeaidd, y gronfa ffyniant gyffredin—fel y'i gelwir—wedi’i gwagio, heb fod geiniog ar ein colled, heb golli unrhyw bŵer; nid yw hynny’n mynd yn dda, ydy e? Mae'r Bil marchnad fewnol yn golygu colli pwerau, colli cyllid, colli rheolaeth ar gyllid, a pharlysu gallu'r Senedd i wneud deddfau gwahanol ar gyfer Cymru yn y dyfodol. Mae'r Bil marchnad fewnol yn ein tynnu i mewn i Loegr, confensiwn Sewel wedi mynd, cytundebau rhynglywodraethol yn jôc—mae'n cael ei orfodi arnom.
Gyda Bil pysgodfeydd a Bil masnach a Bil amaethyddiaeth ar y gweill ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn dal i ddibynnu ar gytundebau rhynglywodraethol ac addewidion a wneir ar lawr Senedd y DU—sydd mor wag ag y maent yn ddiystyr. Eto i gyd, mae Llafur yn parhau i lynu wrth uniad teyrnas fwyfwy anunedig er mawr niwed i Gymru, yn cwyno am yr anghyfiawnderau ond yn rhan o’r broblem. Dros wyth canrif, mae brenhinoedd Lloegr ac elitiaid San Steffan naill ai wedi gormesu neu esgeuluso pobl Cymru, neu'r ddau. Mae pobl yn gwneud hwyl am fy mhen pan fyddaf yn sôn am hanes Cymru, ond nid oes angen inni gofio Llywelyn Ein Llyw Olaf, brad y llyfrau gleision, boddi Tryweryn, nac unrhyw frad hanesyddol arall, gan fod yr enghreifftiau modern yn dal i ddod un ar ôl y llall, pan fo Llywodraeth y DU yn gasympio Llywodraeth Cymru ar gitiau profi, neu'n cyfeirio cyfarpar diogelu personol i Loegr yn hytrach na Chymru, neu’n tanariannu’r seilwaith rheilffyrdd yn ddifrifol yng Nghymru, neu Lywodraeth y DU yn chwalu ffyniant cyffredin, yn dinistrio incwm ffermydd, ac yn datgymalu Cymru’n wleidyddol drwy'r Bil marchnad fewnol. Brad ar ôl brad ar ôl brad, ac mae Llafur yn dal yn falch o fod yn unoliaethol. Mae Torïaid y DU yn chwerthin ar Lywodraeth Cymru ac yn chwerthin ar Gymru gan fod modd ein cadw'n ufudd bob amser. Cyn bo hir, bydd yr Alban yn rhydd o'r siarâd hwn; dim ond Cymru a Lloegr fydd ar ôl. Dim DU, felly. Cawn gip ar y dyfodol dystopaidd a gerir gan y lleiafrif maleisus, cyfeiliornus hwnnw sy’n dymuno cael gwared ar y Senedd a chael gwared ar Gymru. Mae angen i Lafur fod ar ochr gywir hanes wrth symud ymlaen, yn hytrach nag ochri â grymoedd sy’n chwerthin ar ben Cymru. Rhoi cydsyniad deddfwriaethol i chwalu fy nghenedl? Lywydd, i gloi, rydych chi ac eraill yn fy adnabod fel rhywun sy’n dadansoddi materion cyfansoddiadol mewn modd diduedd, ystyriol a phwyllog, ac rwyf i, hyd yn oed, yn dweud y dylid pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol. Diolch yn fawr.