Part of the debate – Senedd Cymru am 12:35 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Mae siaradwyr eraill yn y ddadl hon hyd yma, ddoe a nawr, wedi rhybuddio bod y ddeddfwriaeth hon yn lladrata pwerau datganoledig ac yn ymgais i ganoli'r broses o wneud penderfyniadau yn Llundain. Ond wrth gwrs, nid yw hynny'n wir. Mae'n ddeddfwriaeth a chanddi ddau brif nod: yn gyntaf, sicrhau bod pwerau’n cael eu trosglwyddo’n drefnus o Frwsel i'r DU o ganlyniad i'n hymadawiad â'r UE; ac yn ail, diogelu cyfanrwydd marchnad fewnol y DU ei hun. Bydd y mesurau sydd wedi’u cynnwys ynddi’n sicrhau, pan ddaw'r cyfnod pontio i ben, y bydd busnesau ledled Cymru’n parhau i allu elwa o'r fasnach ddi-dor y maent eisoes yn ei mwynhau gyda gweddill y DU. Mae sicrhau parhad y fasnach hon a'r busnesau a'r swyddi y mae'r fasnach honno'n eu gwarchod yn bwysicach fyth o ystyried effaith y pandemig coronafeirws ar economi Cymru.
Mae'r Bil yn ailddatgan bod y DU yn cynnwys pedair gwlad, ac y bydd cyfle cyfartal i fusnesau werthu eu nwyddau a’u gwasanaethau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ni waeth ym mha wlad y maent wedi’u lleoli. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn cynnal safonau uchel cyfredol ledled y DU ar ystod o bynciau, gan gynnwys hylendid bwyd, lles anifeiliaid a materion eraill. Ni fydd yn lleihau unrhyw un o'r safonau hynny o gwbl, gan gynnwys ar gyflogaeth. Bydd o fudd, wrth gwrs, i ffermwyr Cymru hefyd, wrth inni achub ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu drwy adael y polisi amaethyddol cyffredin, gan ein galluogi i greu system newydd sy'n blaenoriaethu buddiannau ein ffermwyr yma yng Nghymru.
Yn wahanol i'r hyn y byddai rhai yn Senedd Cymru am i chi ei gredu, mae'r Bil yn parchu ac yn cryfhau'r setliad datganoli. O ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon, bydd llu o bwerau'n cael eu trosglwyddo i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar 1 Ionawr, ac ni fydd unrhyw bŵer yn cael ei dynnu ymaith. Bydd pwerau mewn llu o feysydd polisi newydd a arferai fod ym Mrwsel yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Ni fydd unrhyw bŵer yn cael ei dynnu ymaith. A chyfeiriaf at eich sylwadau ar gymorth gwladwriaethol ddoe, Weinidog. Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod cymorth gwladwriaethol yn cael ei lyffetheirio yma yng Nghymru o ganlyniad i'r UE ar hyn o bryd. Felly, ymddengys i mi fod trosglwyddo'r cyfrifoldebau hynny i Lywodraeth y DU yn gwbl synhwyrol.
Lywydd, mae'r Bil yn cyflawni addewidion Boris Johnson i sicrhau Brexit ac i ddatganoli pwerau newydd i'r Senedd o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Ac mae'r angen i wella'r ddeddfwriaeth hon yn bwysicach nag erioed yn awr. Mae Cymru’n gwerthu mwy i weddill y DU na gweddill y byd gyda'i gilydd, felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r cydweithrediad a'r bartneriaeth economaidd hon rhwng y pedair gwlad, gan mai hynny'n unig fydd yn ein helpu i adfer wedi COVID-19.
Bydd y Bil hefyd yn helpu'r adferiad economaidd drwy baratoi'r ffordd i Lywodraeth y DU fuddsoddi mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru, drwy bwerau gwario newydd. Ar hyn o bryd, mae llawer o benderfyniadau buddsoddi yn y DU yn cael eu gwneud gan fiwrocratiaid Ewropeaidd anetholedig, ond o ganlyniad i'r Bil hwn, bydd Llywodraeth y DU yn mabwysiadu'r pwerau gwariant sy'n cael eu harfer gan yr UE ar hyn o bryd. Bydd hynny'n galluogi Llywodraeth y DU i wario arian trethdalwyr y DU a'i fuddsoddi mewn cymunedau a busnesau ledled y DU. Onid yw hynny'n syndod? Byddai'r gwariant hwnnw'n sicrhau cyllid ychwanegol i Gymru ar ben yr hyn sydd ar gael i Lywodraeth Cymru drwy grant bloc Cymru. Dylai pob un ohonom yn y Siambr hon groesawu buddsoddiad posibl mor sylweddol yng Nghymru, ac eto, yn rhyfedd ddigon, mae Gweinidogion Llafur yn gwrthwynebu. Maent yn gwrthwynebu bod Llywodraeth y DU yn mabwysiadu pwerau o'r fath, ac eto, roeddent yn fwy na pharod i'r biwrocratiaid anetholedig diwyneb ym Mrwsel arfer y pwerau hynny. Byddai'n anghredadwy pe na bai'n wir. Pam ar y ddaear y byddai unrhyw un yn y Siambr hon yn gwrthwynebu mwy o fuddsoddiad mewn datblygu economaidd, mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith ledled y wlad? Yn hanfodol, mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn gwbl glir y bydd y lefel o gyllid y bydd Cymru’n ei chael wedi diwedd y cyfnod pontio yn gyfwerth neu'n fwy na'r cyllid a gawn ar hyn o bryd drwy gynlluniau'r UE.
Felly gadewch imi atgoffa Gweinidogion Llafur ac Aelodau’r Senedd heddiw o wirionedd anghyfleus iawn y maent yn ceisio’i anghofio: pleidleisiodd pobl Cymru’n glir yn 2016 o blaid Brexit, yn enwedig yng nghefn gwlad a'ch etholaeth chi. Maent yn dymuno gweld Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi’r gwaith o gyflawni Brexit. Maent am gael Senedd y DU a Senedd sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfreithiau a gwariant a arferai gael eu gwneud ym Mrwsel, ac maent am i economi Cymru adfer yn gyflym wedi’r pandemig rydym ar ei ganol ar hyn o bryd. Mae'r Bil hwn yn cyflawni'r blaenoriaethau hynny, felly gadewch inni ei gefnogi, gadewch inni gyflawni Brexit, a gadewch inni fanteisio ar y cyfleoedd y mae'n eu cyflwyno.