Part of the debate – Senedd Cymru am 12:34 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Ni fydd yn syndod i unrhyw un yn y Siambr hon fy mod yn codi i gefnogi’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Mae Llafur, Plaid Cymru ac eraill yn y Siambr hon wedi gwneud popeth yn eu gallu i geisio atal y DU rhag cyflawni mandad democrataidd pobl Cymru. Yn gyntaf, fe wnaethant geisio ein hatal rhag gadael yr UE, yna fe wnaethant geisio ymestyn y cyfnod pontio, a heddiw maent yn ceisio tanseilio Bil marchnad fewnol y DU.