4. Datganiadau 90 Eiliad

– Senedd Cymru am 3:05 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:05, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r wythnos hon, dyma Vikki Howells.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Llongyfarchiadau, Mr Church. Mae staff ein hysgolion wedi gwneud eu gorau glas mewn blwyddyn heriol iawn. I rai, mae eu rhinweddau ychwanegol arbennig wedi arwain at gydnabyddiaeth arbennig i'w gwaith, ac un ffigur o'r fath yw David Church—yr athro addysg grefyddol gyda'r enw priodol iawn yn Ysgol Gyfun Aberpennar. Bu'n athro yn yr ysgol am dros 20 mlynedd, ac mae Mr Church yn enwog am ei natur ofalgar, ei ymrwymiad i'r gymuned, a'i ethos cymdeithasol tosturiol. Cyfarfûm â Mr Church pan oeddwn yn feirniad yn rownd derfynol First Give Ysgol Gyfun Aberpennar, ac roedd hi'n amlwg fod Mr Church yn un o'r athrawon mwyaf arbennig hynny a oedd yn byw ei swydd, athro a âi y tu hwnt i'r galw, athro roedd ei fyfyrwyr yn ymddiried ynddo, yn ei barchu ac yn cael eu hysbrydoli ganddo. Mae ein llwybrau wedi croesi droeon, ac ar bob achlysur, byddai'n rhoi 110 y cant i brosiectau sy'n grymuso ei ddisgyblion i ymgysylltu â'u cymuned leol. Ac eto, mae hefyd yn ehangu eu gorwelion. Gyda'i gymorth ef, enillodd disgyblion ysgoloriaethau i helpu i adeiladu ysgol yn India—profiad i newid bywydau pawb. Felly, roedd hi'n bleser gweld Mr Church yn ennill gwobr gyntaf y disgyblion am yr athro gorau yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2020. Nododd y panel beirniadu fod Mr Church yn ymgnawdoliad o rinweddau unigryw athro gwych, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Mae rhai pobl wedi cael eu geni i addysgu, ac yn newid bywydau drwy eu gwaith, ac fe'u cofir am oes. Mae Mr Church yn un o'r rhain.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:07, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym yn atal y trafodion yn awr er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych chi'n gadael, gwnewch hynny'n gyflym, a bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:07.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:15, gyda'r Llywydd yn y Gadair.