Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan. Mae COVID-19 wedi cael effaith ofnadwy ar bob un ohonom, ac fel y mae'r cynnig hwn yn ei nodi'n briodol, mae wedi gosod beichiau ofnadwy ar ysgwyddau rhieni newydd i blentyn a anwyd yn ystod y pandemig hwn. Mae'n werth ailadrodd fod y cyfnod o feichiogi i 2 oed yn gyfnod tyngedfennol, pan osodir sylfeini datblygiad plentyn. Os bydd corff ac ymennydd plentyn yn datblygu'n dda, mae eu cyfleoedd mewn bywyd yn gwella. Gall bod yn agored i straen neu adfyd yn ystod y cyfnod hwn olygu y bydd datblygiad plentyn yn llusgo ar ôl. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod roi plant mewn mwy o berygl o ganlyniadau iechyd gwael, ac maent yn gwneud hynny. Gall tlodi plant, er nad yw'n brofiad niweidiol yn ystod plentyndod ynddo'i hun, roi plant mewn mwy o berygl o brofi un neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Mae'r pandemig hwn wedi cael effaith ofnadwy ar yr economi—un a fydd yn cymryd degawdau i wella ohono. Mae hyn wedi golygu bod llawer gormod o bobl yn colli eu swyddi ac yn wynebu'r posibilrwydd o ddiweithdra hirdymor. Rydym wedi gweld miloedd o bobl yn ymgeisio am bob swydd isafswm cyflog ers dechrau'r pandemig, mae banciau bwyd wedi gweld cynnydd dramatig yn y galw am eu gwasanaethau ers mis Ebrill, ac mae bywoliaeth pobl wedi'i dinistrio heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, ond oherwydd y feirws. Mae'r rhai sy'n wynebu sefyllfaoedd o'r fath yn sôn am yr effaith y mae'n ei chael ar eu hiechyd meddwl. Mae'r effeithiau hyn yn cael eu chwyddo'n helaeth i rieni newydd a rhai sydd ar fin dod yn rhieni.
Rydym yn ymfalchïo yn y gefnogaeth a roddir yn draddodiadol yng Nghymru i ddarpar rieni, a hynny'n briodol. Fodd bynnag, gydag argyfwng COVID, mae'n ymddangos bod hynny i gyd wedi'i anghofio. Ac er bod y rhan fwyaf o fyrddau iechyd wedi cadw gwasanaethau cynenedigol ac ôl-enedigol, maent wedi bod yn dameidiog ac wedi crebachu'n fawr oherwydd gwahardd partneriaid. Yn ôl yr elusen gwasanaethau mamolaeth AIMS, mae gwasanaethau mamolaeth dan straen enfawr gyda'r pandemig COVID-19. Mae hyn yn peri i fenywod gael negeseuon cymysg am y gwasanaethau sydd ar gael, gyda gwahanol awdurdodau iechyd yn gwneud penderfyniadau gwahanol, ac mae llawer o famau wedi gweld y gefnogaeth i eni yn y cartref yn cael ei thynnu'n ôl.
Mae cynnwys y ddau riant yn hanfodol, yn enwedig i iechyd meddwl y fam. Mae'r pandemig wedi gweld llawer o famau beichiog a mamau newydd yn cael eu gadael heb rwydwaith cymorth. Dywedodd naw o bob 10 mam eu bod yn teimlo'n fwy pryderus o ganlyniad i fesurau COVID a'r cyfyngiadau symud. Mae iselder ôl-enedigol wedi saethu i fyny ers mis Mawrth, ac yn anffodus, mae mynediad at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol, fel pob gwasanaeth iechyd meddwl, wedi lleihau ers dechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth. Mae mynediad at y gwasanaethau hyn yn bwysicach nag erioed oherwydd lleihau rhwydweithiau cymorth traddodiadol. Mae llawer o famau newydd yn methu galw ar fam neu nain i helpu oherwydd ofn hollbresennol coronafeirws.
Felly, mae'n bwysig—yn hanfodol bwysig—fod Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol ar unwaith. Hoffwn ofyn i Weinidogion warantu na fydd partneriaid yn cael eu gwahardd rhag mynychu gwasanaethau mamolaeth a genedigaeth eu baban am weddill y pandemig. Oni weithredwn yn awr, mae perygl y byddwn yn niweidio cyfleoedd bywyd cenhedlaeth gyfan. Diolch yn fawr.