Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch, Lywydd. Mae'r ddeiseb rydym yn ei thrafod y prynhawn yma wedi casglu 6,017 o lofnodion ac mae'n galw am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd ofnadwy a welwyd yn gynharach eleni. Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan y Cynghorydd Heledd Fychan, sy'n cynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Ym mis Chwefror 2020 gwelwyd rhai o'r llifogydd gwaethaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru. Ar 16 a 17 Chwefror, achosodd Storm Dennis lifogydd eang, gan effeithio ar fwy na 1,000 o gartrefi a busnesau yn ôl pob sôn, a hynny yn Rhondda Cynon Taf yn unig. Yn anffodus, nid digwyddiad ynysig ydoedd oherwydd gwelodd yr ardal lifogydd pellach ddiwedd mis Chwefror ac eto ym mis Mehefin.
Nawr, fel Aelod sy'n cynrychioli etholaeth sydd hefyd wedi cael ei tharo'n wael gan lifogydd yn ddiweddar, mae gennyf bob cydymdeimlad â phobl y mae'r digwyddiadau hyn, sydd bellach yn digwydd yn aml iawn, wedi effeithio ar eu cartrefi a'u busnesau, ac rwy'n awyddus i helpu i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.
Nawr, pan drafodasom y ddeiseb, gwnaeth y straeon personol torcalonnus a gawsom argraff ar aelodau'r Pwyllgor Deisebau, a helpodd hynny i gyfleu'r effaith bersonol enfawr y mae digwyddiadau fel y rhain yn ei chael. Wrth gwrs, mae aelod o'n pwyllgor, fy nghyd-Aelod, Leanne Wood AS, wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o gefnogi ei hetholwyr y mae'r digwyddiadau trasig hyn wedi effeithio arnynt. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Mick Antoniw, gyda'r Aelod Seneddol Alex Davies-Jones AS, hefyd wedi cyhoeddi eu hadroddiad eu hunain yn ddiweddar ar effaith y llifogydd, sy'n dangos bod y rhain yn faterion trawsbleidiol y mae angen mynd i'r afael â hwy.
Mae'r ddeiseb yn galw am ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus i'r llifogydd. Mae'n dadlau bod hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd fel y gellir atal difrod tebyg yn y dyfodol. Mewn ymateb, ysgrifennodd y Gweinidog at y Pwyllgor Deisebau i ddweud nad yw'n teimlo bod angen ymchwiliad annibynnol ar hyn o bryd. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai cyfrifoldeb yr awdurdod rheoli perygl llifogydd lleol yw cynhyrchu adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19 yn dilyn unrhyw achosion o lifogydd. Amlinellodd y gwaith ymchwilio sydd eisoes yn cael ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf i asesu achosion y llifogydd ac i wneud argymhellion ynglŷn â sut y gellir lleihau perygl llifogydd. Deallaf mai safbwynt Llywodraeth Cymru felly yw ei bod yn dymuno ystyried yr adroddiadau statudol cyn penderfynu a oes angen unrhyw ymchwiliad neu adolygiad pellach. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog heddiw'n gallu ymhelaethu ar y safbwynt hwn yn nes ymlaen yn y ddadl.
Fel y nodais yn gynharach, mae'r Pwyllgor Deisebau hefyd wedi cael sylwadau pellach gan y deisebwyr, gan gynnwys nifer fawr o dystebau personol a gasglwyd gan drigolion lleol. Mae'r rhain yn manylu ar y costau personol a'r costau economaidd sy'n cael eu talu gan y bobl a'r busnesau'n uniongyrchol. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill eisiau ymdrin ag effaith y llifogydd ar eu hetholwyr. Felly, defnyddiaf weddill y sylwadau hyn i gyfeirio at rai o'r prif bwyntiau a amlinellwyd gan y deisebwyr.
Yn gyntaf, mae'r deisebydd yn dadlau bod cyfyngiadau sylweddol ar broses adrodd adran 19. Mae'r rhain yn cynnwys gofyn i awdurdodau lleol ymchwilio iddynt eu hunain, o ystyried y rôl bwysig y maent yn ei chwarae yn atal llifogydd yn lleol, ac oherwydd bod nifer gyfyngedig o gyfleoedd i bobl leol fod yn rhan o'r prosesau hynny. Yn ail, mae'r deisebwyr yn credu y dylid mabwysiadu persbectif ehangach. Maent o'r farn y byddai ymchwiliad annibynnol yn gallu ystyried materion a gwersi ehangach, gan gynnwys datgan argyfwng hinsawdd, a'r effaith y mae'r digwyddiadau hyn wedi'i chael ar yr economi leol ac iechyd a lles trigolion. Yn gyffredinol, mae'r deisebwyr yn cwestiynu a yw cwmpas yr adroddiadau presennol y cyfeiriwyd atynt gan y Gweinidog yn ddigon mawr i archwilio'r materion hyn yn llawn, ac i lywio gwaith atal llifogydd yn y cymunedau hyn, a ledled Cymru yn wir.
I gloi'r sylwadau agoriadol hyn, mae'r Pwyllgor Deisebau yn edrych ymlaen nawr at glywed cyfraniadau gan Aelodau eraill y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn ystod y ddadl hon, ac fe ddychwelaf i roi ystyriaeth bellach i'r ddeiseb yng ngoleuni'r rhain. Mae'r deisebwyr wedi dweud yn glir iawn mai adolygiad neu ymchwiliad annibynnol yw'r unig ffordd o ddysgu'r gwersi a fydd yn sicr yn helpu i atal y mathau hyn o lifogydd rhag digwydd eto, ac i roi'r sicrwydd y mae cymunedau yn Rhondda Cynon Taf ei angen ac yn ei haeddu. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi esboniadau pellach y prynhawn yma mewn ymateb i'r pwynt hwn a phwyntiau eraill a fydd yn codi yn ystod y ddadl. Rwy'n croesawu'r holl gyfraniadau y mae Aelodau eraill am eu gwneud. Diolch, Lywydd.