Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a byddaf yn sicr o nodi'r hyn rydych wedi'i ddweud. Rydym yn wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus go iawn wrth gwrs, ac nid oes yr un ohonom wedi profi ei debyg o'r blaen, ond credaf fod gennym argyfwng hefyd o ran sut rydym yn ymdrin â'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Mae gennym argyfwng hefyd o ran sut rydym yn trafod ac yn cyfathrebu â'n gilydd. Ddirprwy Lywydd, rydym yn trafod llawer o faterion yma yn y Senedd hon, ond mae gennym gyfrifoldebau sylweddol yn y materion penodol hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud mai anaml yn y blynyddoedd y bûm yn eistedd yma y teimlais bwysau'r cyfrifoldeb hwnnw mor drwm ar ein hysgwyddau ag y mae heddiw ac yn y cyfnod hwn.
Mae'n amlwg i mi fod y feirws yn lledaenu'n gyflym ac felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gael rhyddid i gymryd camau o'r fath. Clywaf yr hyn a ddywed Aelodau amdanom yn pleidleisio ar y materion hyn, ac rwyf bob amser wedi bod gyda'r mwyaf awyddus i amddiffyn hawliau'r Senedd hon, ond rhaid i'r Llywodraeth allu gweithredu pan fo angen hefyd.
A dywedaf hyn wrth y Ceidwadwyr: gwrandewais ar lefarydd y Ceidwadwyr a'm siomodd am yr eildro heddiw, mae arnaf ofn. Yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, gofynnais i'r Llywodraeth ynglŷn â'r cyngor y maent yn ei ddilyn ar gyfer gwneud penderfyniadau ar letygarwch. Gwneuthum ymyriad ar y Prif Weinidog i ddweud bod angen inni sicrhau bod y cyngor hwn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r penderfyniad. Mae'r cyngor hwnnw wedi'i gyhoeddi ac yn wahanol i'r Ceidwadwyr, rwyf wedi cymryd peth amser i ddarllen y cyngor hwnnw a'i ddarllen yn fanwl. Ac mae'n rhaid i mi ddweud hyn: mae'r cyngor gan y gymuned wyddonol, y cyngor gan y gymuned feddygol i'r Llywodraeth yn sicr yn cyfiawnhau'r penderfyniadau y mae'r Llywodraeth wedi'u gwneud. Mae'r cyngor hefyd yn glir iawn nad oedd y dull rhanbarthol a brofwyd yn gynharach eleni yn cael yr un effaith â rheoliadau cenedlaethol. Roedd hynny hefyd yn y cyngor. Roedd y cyngor hefyd yn glir iawn yn yr hyn a ddywedai am letygarwch. Rwyf wedi rhannu'r cyngor hwn gyda thafarnwyr yn fy etholaeth fy hun. Maent wedi rhoi amser i'w ddarllen ac maent yn ei ddeall. Nid yw'n ormod gofyn, Ddirprwy Lywydd, i'r brif wrthblaid yma wneud yr un peth.
Mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi a rhoi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl i'r cyhoedd ar yr adeg y mae'n gwneud penderfyniadau ar reoliadau. Mae pobl Blaenau Gwent yn wynebu un o'r sefyllfaoedd anoddaf y mae ein cymuned wedi'i hwynebu. Rydym yn gweld ac yn deall difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Mae ystadegau heddiw yn dweud wrthym fod 574 o achosion ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn adlewyrchu'r hyn a ddywedwyd wrthym yr wythnos diwethaf gan y bwrdd iechyd. Dywedodd y bwrdd iechyd wrthym fod ein hysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn wynebu argyfwng gwirioneddol. Mae'r bobl rydym yn dibynnu arnynt ac yn ymddiried ynddynt i staffio'r ysbytai hynny dan fwy o bwysau heddiw nag y buont ar unrhyw adeg. Mae mwy o bobl heddiw yn yr ysbyty yng Ngwent o ganlyniad i'r coronafeirws nag a fu ar unrhyw adeg dros y naw mis diwethaf. Nid yw'r rhain yn faterion y gallwn gael gwared arnynt drwy ddymuno hynny'n unig, ac nid ydynt yn faterion y gallwn eu hanwybyddu oherwydd ei bod yn wleidyddol hwylus inni wneud hynny. Roedd y bwrdd iechyd yn glir, wrth siarad â ni fel cynrychiolwyr etholedig, eu bod yn cefnogi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac mewn gwirionedd maent am i Lywodraeth Cymru symud ymhellach yn gyflymach. Mae'n bryd inni wrando ar yr hyn y mae'r meddygon a'r staff meddygol a'r gymuned wyddonol yn ei ddweud wrthym. Mae gan unrhyw un sy'n ceisio swydd etholedig, ac unrhyw un sy'n ceisio llywodraethu'r wlad hon, gyfrifoldeb arbennig i wrando ar y cyngor hwn, ac ymateb iddo a'i ddilyn.
Mae pobl Blaenau Gwent yn teimlo hyn yn drwm iawn. Rwy'n siarad ac maent yn deall beth sy'n digwydd yma yng Nghymru. Maent hefyd yn deall y cyfyngiadau sy'n digwydd mewn mannau eraill ar draws yr Undeb Ewropeaidd a ledled y Deyrnas Unedig. Maent yn deall y cyfyngiadau haen 3 yn Lloegr. Maent yn deall beth y mae lefel 3 a beth y mae lefel 4 yn yr Alban yn ei olygu. Maent yn gwybod beth rydym ni yn ei wynebu. Rhaid i'r Llywodraeth weithio gyda hwy i esbonio a chyhoeddi'r wybodaeth, a rhaid i'r gwrthbleidiau gefnogi'r hyn sy'n iawn a pheidio â cheisio sgorio pwyntiau mewn dadl wleidyddol ddiffrwyth. Mae'n bryd i ni fel gwlad sefyll gyda'n gilydd, ac mae'n bryd i ni fel gwlad ddiogelu'r gwasanaeth iechyd gwladol, nid curo dwylo'n unig, ac mae hynny'n golygu pleidleisio dros y penderfyniadau anodd y cafodd pawb ohonom ein hethol i'w gwneud.