Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen gyda hyn: gofynnaf i'r Llywodraeth ystyried a allwn amrywio'r bobl y mae'r cyfyngiadau hyn yn effeithio arnynt, oherwydd mae gan rai pobl fwy o opsiynau a mwy o ddewisiadau nag eraill. Y cyfan y mae angen inni ei wneud yw dangos ychydig o drugaredd ac ychydig o ddealltwriaeth ynglŷn â sut y mae pobl yn byw eu bywydau, yn ogystal â blaenoriaethu camau i leihau lledaeniad y feirws, wrth gwrs.