7. & 8. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (Gohiriwyd o 8 Rhagfyr) a Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Coronafeirws — Cyfyngiadau mis Rhagfyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 5:23, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw ac i gefnogi'r camau pellach sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gadw pobl yn ddiogel yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail hwn. Mae fy nghalon yn gwaedu dros y rhai yn y diwydiant lletygarwch sydd wedi gweithio'n galed i geisio gwneud eu safleoedd yn ddiogel rhag COVID, ond rwy'n credu, fel y gwneuthum drwy gydol y pandemig hwn, mai diogelu iechyd y cyhoedd yw'r brif flaenoriaeth. Fel y dywedodd Alun Davies, mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Ngwent yn llwm ac mae'r pwysau ar ein GIG yn aruthrol. Ar hyn o bryd mae mwy o gleifion yn yr ysbyty yng Ngwent nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig. Ceir heriau staffio enfawr, gydag absenoldeb staff bron yn 10 y cant. Golyga hynny fod tua 1,250 o bobl bob dydd heb fod ar gael i weithio. Yr wythnos diwethaf, gorfodwyd gwasanaeth ambiwlans Cymru i ddatgan digwyddiad o bwys yn ne-ddwyrain Cymru.

Mae'r sefyllfa hon yn debygol o waethygu os bydd heintiau'n parhau ar eu llwybr presennol. Rydym yn gweld nifer uchel a chynyddol o heintiau mewn cartrefi gofal ledled Gwent. Yn yr ail don hon, mae fy etholaeth i, sef Torfaen, wedi cael ei tharo'n wael, gyda 271 o achosion mewn cartrefi gofal. Y tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny mae teulu wedi'i effeithio gan COVID. Rydym i gyd wedi adnabod pobl sydd wedi colli pobl yn drasig i COVID yn yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy. Yn onest, ni allaf ddychmygu dim sy'n anoddach na cholli rhywun annwyl heb fod yno i ddal eu llaw.

Rhaid inni beidio byth ag anghofio effaith barhaus yr argyfwng hwn ar staff ein GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio dan bwysau anhygoel ers mis Mawrth. Mae gennym ddyletswydd gofal i'r rheini y gofynnwn iddynt weithio ar y rheng flaen yn yr argyfwng hwn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i'r holl staff GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n ddiflino ac sydd wedi aberthu cymaint yn y pandemig hwn. Nid yw'r aelodau hynny o staff angen Aelodau o'r Senedd sy'n fodlon clapio ar garreg eu drws. Nid ydynt angen Aelodau o'r Senedd sy'n barod i chwarae gwleidyddiaeth gyda'r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf a welsom ers 100 mlynedd. Maent angen Aelodau o'r Senedd sy'n barod i wneud y penderfyniadau anodd sy'n angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel.

Gan ein bod hefyd yn trafod cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, hoffwn ddweud ychydig eiriau amdanynt. Gwn fod llawer o'r Aelodau yn y blaid gyferbyn yn cydnabod ein bod yn wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus na welwyd ei debyg o'r blaen ac sydd am weithio'n adeiladol ar draws pleidiau gwleidyddol i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn ystyried bod ymagwedd arweinydd yr wrthblaid a pharodrwydd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig i chwarae gwleidyddiaeth gydag iechyd y cyhoedd yn ddychrynllyd yn ddiweddar. Ddoe ddiwethaf roedd arweinydd yr wrthblaid yn trydar bod preswylwyr mewn cartrefi gofal wedi cael eu hanwybyddu yn ymgyrch frechu COVID Llywodraeth Cymru, er ei fod yn gwybod yn iawn fod gofynion storio'r brechlyn Pfizer yn golygu na allwn ddarparu'r brechlyn yn ddiogel mewn cartrefi gofal eto. Felly, gyda phob parch, hoffwn atgoffa arweinydd yr wrthblaid, nad yw wedi dileu'r trydariadau hynny, fod y gwirionedd yn nwydd hanfodol mewn argyfwng iechyd cyhoeddus.

Ddoe, gyda dechrau'r rhaglen frechu, cawsom lygedyn o obaith ym mhen draw'r twnnel hir a thywyll rydym i gyd wedi bod ynddo—gobaith y bydd bywyd yn edrych yn wahanol iawn y flwyddyn nesaf, nid ar unwaith efallai, ond yn y gwanwyn neu'r haf. Ar ddechrau'r hyn sydd, gobeithio, yn ddechrau'r diwedd ar y pandemig hwn, a ydym mewn gwirionedd am golli bywydau y gallem eu hachub drwy wneud penderfyniadau anodd nawr? Yn sicr, nid wyf fi eisiau hynny, a dyna pam rwy'n cefnogi'r Llywodraeth heddiw.