Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Hoffwn siarad yn bennaf am ein gwelliannau 11, 12 a 13, ac rwyf am ddechrau, os gallaf, gyda gwelliant 12. Mae'n ymddangos i ni fod cymaint o reswm, os nad mwy, dros bryderu am ledaeniad y feirws yng nghartrefi pobl os oes llawer iawn o alcohol yn cael ei yfed, nag sydd o reswm dros boeni am ledaeniad y feirws mewn lleoliadau lletygarwch. Nid oes neb am gael ymateb anghymesur i'r argyfwng, rwy'n siŵr, ond rwy'n teimlo, ac rydym yn credu, fod achos dros gyfyngu—. Os oes achos dros gyfyngu ar werthu alcohol yn gyfan gwbl mewn safleoedd trwyddedig, lle mae pobl o leiaf yn bwyta bwyd ac yn yfed alcohol dan oruchwyliaeth o bosibl, fel y mae eraill wedi dweud, mae angen ystyried a ddylem geisio sicrhau bod modd osgoi'r senario lle mae pobl yn cael eu potel o win gyda swper ac yna'n penderfynu mynd i siop y gornel i brynu dwy neu dair arall. Gallaf ddeall amharodrwydd Gweinidogion i ymyrryd yn anghymesur yn ymddygiad pobl yn eu cartrefi eu hunain—rwy'n deall hynny—ond os ydym yn dweud wrth ein busnesau lletygarwch fod angen iddynt ddioddef ergyd anghymesur ar hyn, credaf y dylai'r Llywodraeth ystyried o bosibl a ddylai'r ergyd honno gael ei gwasgaru'n fwy cyfartal os yw ein pryderon—. Mae'n debyg mai un o'n pryderon—a dof at hyn mewn munud—ynglŷn â chyfyngu'r holl werthiannau alcohol mewn lletygarwch yw y bydd yn mynd i mewn i gartrefi pobl lle mae llai o allu i reoli faint o alcohol a yfir ac felly'r risg o leihau ataliad a hyrwyddo'r lledaeniad.
Dylwn ddweud, cyn imi fynd ymlaen at welliannau 11 a 13, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, nid oes neb ar y meinciau hyn, nid oes neb ym Mhlaid Cymru yn bychanu pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa hon ac nid oes neb yn awgrymu y dylem ddileu'r holl gyfyngiadau. Ond rydym yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto i weld pwy y mae'r cyfyngiadau penodol hyn yn effeithio arnynt. Ac wrth wneud hynny, gadewch imi ddweud wrthych am Phillip. Plymwr yw Phillip. Cyfarfûm ag ef a chawsom sgwrs gan gadw pellter cymdeithasol ar y stryd yn Llanelli ddydd Sadwrn diwethaf. Mae'n hunangyflogedig, mae'n byw ar ei ben ei hun ac ni fydd yn treulio'r Nadolig hwn gyda'i rieni oedrannus oherwydd eu bod wedi gorfod penderfynu pa rai o'u plant a phlant eu plant y gallant fod gyda hwy, ac mae gan frodyr a chwiorydd eraill Phillip wyrion y mae eu rhieni am eu gweld. Felly, mae wedi penderfynu'n hapus—wel, yn derbyn—na fydd yn gallu eu gweld. Ddwy neu dair gwaith yr wythnos, weithiau bedair gwaith, ar ei ffordd adref o'r gwaith, mae Phillip yn aros yn y dafarn am un, efallai dau beint o gwrw—anaml iawn y caiff fwy na hynny oherwydd mae'n rhaid iddo godi'n gynnar yn y bore. Ni all wneud hynny nawr. Gan nad yw ei dafarn leol yn cael gwerthu alcohol, nid yw'n ymarferol iddynt agor, ac oherwydd bod yn rhaid iddi gau am 6 o'r gloch a'i fod ef yn gorffen gweithio am hanner awr wedi pump, nid oes amser iddo gyrraedd adref, ymolchi a chyrraedd yno. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru, pan fyddant yn adolygu'r cyfyngiadau, i feddwl pwy mae'r cyfyngiadau hynny'n effeithio arnynt a pha effaith y maent yn ei chael ar fywydau'r bobl hynny.
Mae Phillip yn ofalus iawn i gadw ei bellter pan fydd yn gweithio yng nghartrefi pobl. Byddai llawer o'i gyswllt cymdeithasol yn y gorffennol wedi cynnwys sgwrsio gyda'i gwsmeriaid yn ogystal â dweud helo mewn ffordd sy'n cadw pellter cymdeithasol wrth ei ddau neu dri ffrind yn y dafarn. Mae bellach mewn sefyllfa lle na all gael dim o hynny. Felly, gall menywod sy'n ciniawa, nad ydynt yn y gwaith ac sy'n gallu mynd allan i gael eu pryd o fwyd amser cinio, o leiaf gwrdd â'i gilydd, hyd yn oed os na allant gael diod pan fyddant yn cwrdd â'i gilydd. Ond ni all Phillip weld neb, ac eithrio ar benwythnosau, oherwydd y ffordd y mae ei waith wedi'i strwythuro. Nawr, nid wyf yn meddwl am funud fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi pobl fel Phillip mewn sefyllfa lle maent yn fwy unig, ond rwy'n eu hannog i ystyried sut y mae pobl yn byw eu bywydau ac i feddwl, pan fyddant yn edrych ar y cyfyngiadau eto, a allem ganiatáu i un neu ddau o ddiodydd alcoholig gael eu hyfed, fel sydd wedi'i wneud mewn gwledydd eraill. A allem ganiatáu i letygarwch agor am awr neu ddwy ar ôl i'r rhan fwyaf o bobl orffen gweithio, fel y gall pobl fel Phillip, gyda llawer ohonynt yn ddynion sy'n byw ar eu pen eu hunain mewn gwirionedd, gael y lefel honno o gyswllt cymdeithasol?
Nid wyf am funud yn awgrymu, Ddirprwy Lywydd, fod unrhyw un o'r dewisiadau hyn yn hawdd, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fy mod wedi adnabod Phillip ers tipyn ac mae wedi dilyn y rheolau i'r llythyren. Wyddoch chi, mae'n camu naill ochr fel y gall ei frodyr a'i chwiorydd dreulio amser gyda'u rhieni dros y Nadolig. Gofynnodd imi ofyn pam—pam y mae'r rheoliadau wedi'u strwythuro fel y maent. Er bod tystiolaeth o ledaenu'r feirws mewn lletygarwch, nid wyf yn siŵr a oes tystiolaeth fod y feirws yn lledaenu o fewn lletygarwch mewn tafarndai a reoleiddir yn briodol fel tafarn leol Phillip, gyda phobl yn cael un neu ddau o ddiodydd yn gynnar gyda'r nos. Mae'n wir, fel y mae eraill wedi dweud, fod lleiafrif bach o dafarnwyr yn y sector lletygarwch wedi caniatáu ymddygiad amhriodol. Mae'n wir bod rhai unigolion wedi bod yn anghyfrifol, ond mae llawer mwy o unigolion wedi cadw at y rheolau ac maent wedi'i chael hi'n anodd. Rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth ystyried—